12 Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a'r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred?
13 Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a'r dil mêl, canys melys yw i'th enau.
14 Felly y bydd gwybodaeth doethineb i'th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a'th obaith ni phalla.
15 Na chynllwyn di, O annuwiol, wrth drigfa y cyfiawn; na anrheithia ei orffwysfa ef.
16 Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwiolion a syrthiant mewn drygioni.
17 Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon:
18 Rhag i'r Arglwydd weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti.