17 Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon:
18 Rhag i'r Arglwydd weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti.
19 Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion:
20 Canys ni bydd gwobr i'r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir.
21 Fy mab, ofna yr Arglwydd a'r brenin, ac nac ymyrr â'r rhai anwastad:
22 Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?
23 Dyma hefyd bethau doethion. Nid da derbyn wyneb mewn barn.