2 Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a'u gwefusau a draetha flinder.
3 Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef:
4 A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd.
5 Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth.
6 Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch.
7 Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth.
8 Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler.