22 Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?
23 Dyma hefyd bethau doethion. Nid da derbyn wyneb mewn barn.
24 Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Cyfiawn wyt; y bobl a'i melltithiant ef, cenhedloedd a'i ffieiddiant ef:
25 Ond i'r neb a'i ceryddo, y bydd hyfrydwch; a bendith dda a ddigwydd iddynt.
26 Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn.
27 Darpara dy orchwyl oddi allan, a dosbartha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ.
28 Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog: ac na huda â'th wefusau.