30 Mi a euthum heibio i faes y dyn diog, a heibio i winllan yr angall;
31 Ac wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a'i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr.
32 Gwelais hyn, a mi a ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg.
33 Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylo i gysgu:
34 Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd, a'th angen fel gŵr arfog.