7 Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth.
8 Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler.
9 Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus.
10 Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth.
11 Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â'r neb sydd barod i'w lladd?
12 Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a'r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred?
13 Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a'r dil mêl, canys melys yw i'th enau.