1 Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion:
2 Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti.
3 Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon.
4 Felly y cei di ras a deall da gerbron Duw a dynion.
5 Gobeithia yn yr Arglwydd â'th holl galon; ac nac ymddiried i'th ddeall dy hun.
6 Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.
7 Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr Arglwydd, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni.