10 Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a'th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.
11 Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef;
12 Canys y neb a fyddo Duw yn ei garu, efe a'i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.
13 Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a'r dyn a ddygo ddeall allan.
14 Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a'i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth.
15 Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a'r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.
16 Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.