18 Pren bywyd yw hi i'r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.
19 Yr Arglwydd trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd.
20 Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.
21 Fy mab, na ollwng hwynt allan o'th olwg: cadw ddoethineb a phwyll.
22 Yna y byddant yn fywyd i'th enaid, ac yn ras i'th wddf.
23 Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a'th droed ni thramgwydda.
24 Pan orweddych, nid ofni; ti a orweddi, a'th gwsg fydd felys.