21 Fy mab, na ollwng hwynt allan o'th olwg: cadw ddoethineb a phwyll.
22 Yna y byddant yn fywyd i'th enaid, ac yn ras i'th wddf.
23 Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a'th droed ni thramgwydda.
24 Pan orweddych, nid ofni; ti a orweddi, a'th gwsg fydd felys.
25 Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo.
26 Canys yr Arglwydd a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.
27 Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur.