28 Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr.
29 Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.
30 Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.
31 Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o'i ffyrdd ef.
32 Canys ffiaidd gan yr Arglwydd y cyndyn: ond gyda'r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.
33 Melltith yr Arglwydd sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.
34 Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i'r gostyngedig.