32 Canys ffiaidd gan yr Arglwydd y cyndyn: ond gyda'r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.
33 Melltith yr Arglwydd sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.
34 Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i'r gostyngedig.
35 Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.