4 Felly y cei di ras a deall da gerbron Duw a dynion.
5 Gobeithia yn yr Arglwydd â'th holl galon; ac nac ymddiried i'th ddeall dy hun.
6 Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.
7 Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr Arglwydd, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni.
8 Hynny a fydd iechyd i'th fogail, a mêr i'th esgyrn.
9 Anrhydedda yr Arglwydd â'th gyfoeth, ac â'r peth pennaf o'th holl ffrwyth:
10 Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a'th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.