2 Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau?
3 Na ddyro i wragedd dy nerth; na'th ffyrdd i'r hyn a ddifetha frenhinoedd.
4 Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn:
5 Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig.
6 Rhoddwch ddiod gadarn i'r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i'r rhai trwm eu calon.
7 Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy.
8 Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.