1 Fy mab, gwrando ar fy noethineb, a gostwng dy glust at fy neall:
2 Fel y gellych ystyried pwyll, a'th wefusau gadw gwybodaeth.
3 Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mêl, a'i genau sydd lyfnach nag olew:
4 Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, yn llym fel cleddyf daufiniog.