10 Rhag llenwi yr estron â'th gyfoeth di, ac i'th lafur fod yn nhŷ y dieithr;
11 Ac o'r diwedd i ti ochain, wedi i'th gnawd a'th gorff gurio,
12 A dywedyd, Pa fodd y caseais i addysg! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd!
13 Ac na wrandewais ar lais fy athrawon, ac na ostyngais fy nghlust i'm dysgawdwyr!
14 Bûm o fewn ychydig at bob drwg, yng nghanol y gynulleidfa a'r dyrfa.
15 Yf ddwfr o'th bydew dy hun, a ffrydiau allan o'th ffynnon dy hun.
16 Tardded dy ffynhonnau allan, a'th ffrydiau dwfr yn yr heolydd.