16 Tardded dy ffynhonnau allan, a'th ffrydiau dwfr yn yr heolydd.
17 Byddant yn eiddot ti dy hun yn unig, ac nid yn eiddo dieithriaid gyda thi.
18 Bydded dy ffynnon yn fendigedig: ac ymlawenha gyda gwraig dy ieuenctid.
19 Bydded fel ewig gariadus, ac fel iyrches hawddgar: gad i'w bronnau hi dy lenwi bob amser, ac ymfodlona yn ei chariad hi yn wastadol.
20 A phaham, fy mab, yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr, ac y cofleidi fynwes yr hon nid yw eiddot ti?
21 Canys ffyrdd dyn sydd yng ngolwg yr Arglwydd, ac y mae efe yn dal ar ei holl lwybrau ef.
22 Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun.