18 Bydded dy ffynnon yn fendigedig: ac ymlawenha gyda gwraig dy ieuenctid.
19 Bydded fel ewig gariadus, ac fel iyrches hawddgar: gad i'w bronnau hi dy lenwi bob amser, ac ymfodlona yn ei chariad hi yn wastadol.
20 A phaham, fy mab, yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr, ac y cofleidi fynwes yr hon nid yw eiddot ti?
21 Canys ffyrdd dyn sydd yng ngolwg yr Arglwydd, ac y mae efe yn dal ar ei holl lwybrau ef.
22 Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun.
23 Efe a fydd farw o eisiau addysg; a rhag maint ei ffolineb yr â ar gyfeiliorn.