7 Yr awr hon gan hynny, O blant, gwrandewch arnaf fi, ac na ymadewch â geiriau fy ngenau.
8 Cadw dy ffordd ymhell oddi wrthi hi, ac na nesâ at ddrws ei thŷ hi:
9 Rhag i ti roddi dy harddwch i eraill, a'th flynyddoedd i'r creulon:
10 Rhag llenwi yr estron â'th gyfoeth di, ac i'th lafur fod yn nhŷ y dieithr;
11 Ac o'r diwedd i ti ochain, wedi i'th gnawd a'th gorff gurio,
12 A dywedyd, Pa fodd y caseais i addysg! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd!
13 Ac na wrandewais ar lais fy athrawon, ac na ostyngais fy nghlust i'm dysgawdwyr!