15 Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth.
16 Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr Arglwydd: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef:
17 Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a'r dwylo a dywalltant waed gwirion,
18 Y galon a ddychmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni,
19 Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a'r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.
20 Fy mab, cadw orchymyn dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam.
21 Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol; clwm hwynt am dy wddf.