12 Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.)
13 Hi a ymafaelodd ynddo, ac a'i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho,
14 Yr oedd arnaf fi aberthau hedd; heddiw y cywirais fy adduned:
15 Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwilio am dy wyneb; a chefais afael arnat.
16 Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft.
17 Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes, a sinamon.
18 Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad.