15 Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwilio am dy wyneb; a chefais afael arnat.
16 Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft.
17 Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes, a sinamon.
18 Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad.
19 Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell:
20 Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol.
21 Hi a'i troes ef â'i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a'i cymhellodd ef.