2 Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a'm cyfraith fel cannwyll dy lygad.
3 Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon.
4 Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares:
5 Fel y'th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw â'r ymadrodd gwenieithus.
6 Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt,
7 A mi a welais ymysg y ffyliaid, ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo,
8 Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac efe a âi ar hyd y ffordd i'w thŷ hi,