22 Efe a'i canlynodd hi ar frys, fel yr ych yn myned i'r lladdfa, neu fel ynfyd yn myned i'r cyffion i'w gosbi:
23 Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef; fel yr aderyn yn prysuro i'r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef.
24 Yn awr gan hynny, fy meibion, gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau.
25 Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi.
26 Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig; ie, gwŷr grymus lawer a laddodd hi.
27 Ffordd i uffern yw ei thŷ hi, yn disgyn i ystafelloedd angau.