7 A mi a welais ymysg y ffyliaid, ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo,
8 Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac efe a âi ar hyd y ffordd i'w thŷ hi,
9 Yn y cyfnos gyda'r hwyr, pan oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll:
10 Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef, a chanddi ymddygiad putain, ac â chalon ddichellgar.
11 (Siaradus ac anufudd yw hi; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ:
12 Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.)
13 Hi a ymafaelodd ynddo, ac a'i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho,