14 Yr oedd gan bob un o'r cerwbiaid bedwar wyneb: y cyntaf yn wyneb cerwb; yr ail yn wyneb dyn; y trydydd yn wyneb llew; y pedwerydd yn wyneb eryr.
15 Yna fe gododd y cerwbiaid i fyny; dyma'r creaduriaid a welais wrth afon Chebar.
16 Pan symudai'r cerwbiaid, fe symudai'r olwynion wrth eu hochr; pan estynnai'r cerwbiaid eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, nid oedd yr olwynion yn ymadael â hwy.
17 Pan safent, fe safent hwythau, a phan godent, fe godent hwythau, oherwydd yr oedd ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.
18 Yna symudodd gogoniant yr ARGLWYDD o fod uwchben rhiniog y deml, ac arhosodd uwchben y cerwbiaid.
19 Estynnodd y cerwbiaid eu hadenydd a chodi oddi ar y ddaear yn fy ngŵydd, ac fel yr oeddent yn mynd yr oedd yr olwynion yn mynd gyda hwy. Ond bu iddynt aros wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ'r ARGLWYDD, ac yr oedd gogoniant Duw Israel yno uwch eu pennau.
20 Dyma'r creaduriaid a welais dan Dduw Israel wrth afon Chebar, a sylweddolais mai cerwbiaid oeddent.