Eseciel 47 BCN

Yr Afon o'r Deml

1 Aeth y dyn â mi'n ôl at ddrws y deml, a gwelais ddŵr yn dod allan o dan riniog y deml tua'r dwyrain, oherwydd wynebai'r deml tua'r dwyrain; yr oedd y dŵr yn dod i lawr o dan ochr dde'r deml, i'r de o'r allor.

2 Yna aeth â mi allan trwy borth y gogledd, a'm harwain oddi amgylch o'r tu allan at borth y dwyrain, ac yr oedd y dŵr yn llifo o'r ochr dde.

3 Wrth i'r dyn fynd allan tua'r dwyrain â llinyn mesur yn ei law, mesurodd fil o gufyddau, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y fferau.

4 Yna mesurodd fil arall, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y gliniau; a mesurodd fil arall, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y wasg.

5 Mesurodd fil arall eto, ond yr oedd yn afon na allwn ei chroesi, oherwydd yr oedd y dyfroedd wedi codi gymaint fel y gellid nofio ynddynt, ac yn afon na ellid ei chroesi.

6 A dywedodd wrthyf, “Fab dyn, a welaist ti hyn?”Yna aeth â mi'n ôl at lan yr afon.

7 Pan gyrhaeddais yno, gwelais nifer mawr o goed ar ddwy lan yr afon.

8 Dywedodd wrthyf, “Y mae'r dyfroedd hyn yn llifo i diriogaeth y dwyrain, ac yna i lawr i'r Araba ac i mewn i'r môr, y môr y mae ei ddyfroedd yn ddrwg, ac fe'u purir.

9 Bydd pob math o ymlusgiaid yn byw lle bynnag y llifa'r afon, a bydd llawer iawn o bysgod, oherwydd bydd yr afon hon yn llifo yno ac yn puro'r dyfroedd; bydd popeth yn byw lle llifa'r afon.

10 Bydd pysgotwyr yn sefyll ar y lan, ac o En-gedi hyd En-eglaim bydd lle i daenu rhwydau; bydd llawer math o bysgod, fel pysgod y Môr Mawr.

11 Ni fydd y rhosydd a'r corsydd yn cael eu puro, ond fe'u gadewir ar gyfer halen.

12 Ar y glannau oddeutu'r afon fe dyf coed ffrwythau o bob math, ac ni fydd eu dail yn gwywo na'u ffrwyth yn methu; ffrwythant bob mis, oherwydd bydd y dyfroedd o'r cysegr yn llifo atynt, a bydd eu ffrwyth yn fwyd a'u dail yn iechyd.”

Terfynau'r Tiroedd

13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: “Dyma'r terfynau ar gyfer rhannu'r wlad yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel, gyda dwy gyfran i Joseff.

14 Yr wyt i'w rhannu'n gyfartal rhyngddynt; tyngais y byddwn yn ei rhoi i'ch hynafiaid, ac fe ddaw'r wlad hon yn etifeddiaeth i chwi.

15 “Dyma fydd terfyn y wlad: ar ochr y gogledd bydd yn rhedeg o'r Môr Mawr ar hyd ffordd Hethlon heibio i Lebo-hamath i Sedad,

16 Berotha a Sibraim, sydd ar y terfyn rhwng Damascus a Hamath, a chyn belled â Haser-hatticon, sydd ar derfyn Hauran.

17 Bydd y terfyn yn ymestyn o'r môr at Hasar-enan ar hyd terfyn gogleddol Damascus, gyda therfyn Hamath i'r gogledd. Dyma fydd terfyn y gogledd.

18 “Ar ochr y dwyrain bydd yn rhedeg rhwng Hauran a Damascus, ar hyd yr Iorddonen rhwng Gilead a thir Israel, ac at fôr y dwyrain hyd at Tamar. Dyma fydd terfyn y dwyrain.

19 “Ar ochr y de bydd yn rhedeg o Tamar at ddyfroedd Meriba-cades ac ar hyd yr afon at y Môr Mawr. Dyma fydd terfyn y de.

20 “Ar ochr y gorllewin, y Môr Mawr fydd y terfyn nes dod gyferbyn â Lebo-hamath. Dyma fydd terfyn y gorllewin.

21 “Rhannwch y wlad hon rhyngoch yn ôl llwythau Israel,

22 a'i neilltuo'n etifeddiaeth i chwi ac i'r estroniaid sy'n byw yn eich mysg ac yn magu plant; byddant hwythau yn eich mysg fel rhai o frodorion Israel, ac fel chwithau byddant yn cael etifeddiaeth ymhlith llwythau Israel.

23 Ym mha lwyth bynnag y bydd yr estron yn ymsefydlu, yno y byddwch yn rhoi etifeddiaeth iddo, medd yr Arglwydd DDUW.