Eseciel 1 BCN

Gweledigaeth y Creaduriaid a Gorsedd Duw

1 Ar y pumed dydd o'r pedwerydd mis yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, a minnau ymysg y caethgludion wrth afon Chebar, agorwyd y nefoedd a chefais weledigaethau o Dduw.

2 Ar y pumed dydd o'r mis ym mhumed flwyddyn caethgludiad y Brenin Jehoiachin,

3 daeth gair yr ARGLWYDD at yr offeiriad Eseciel fab Busi yn Caldea, wrth afon Chebar; ac yno daeth llaw yr ARGLWYDD arno.

4 Wrth imi edrych, gwelais wynt tymhestlog yn dod o'r gogledd, a chwmwl mawr a thân yn tasgu a disgleirdeb o'i amgylch, ac o ganol y tân rywbeth tebyg i belydrau pres.

5 Ac o'i ganol daeth ffurf pedwar creadur, a'u hymddangosiad fel hyn: yr oeddent ar ddull dynol,

6 gyda phedwar wyneb a phedair adain i bob un ohonynt;

7 yr oedd eu coesau yn syth, a gwadnau eu traed fel gwadnau llo, ac yr oeddent yn disgleirio fel efydd gloyw.

8 Yr oedd ganddynt ddwylo dynol o dan bob un o'u pedair adain; yr oedd gan y pedwar wynebau ac adenydd,

9 ac yr oedd eu hadenydd yn cyffwrdd â'i gilydd. Nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth gerdded, ond fe âi pob un yn syth yn ei flaen.

10 Yr oedd ffurf eu hwynebau fel hyn: yr oedd gan y pedwar ohonynt wyneb dynol, yna wyneb llew ar yr ochr dde, ac wyneb ych ar yr ochr chwith, ac wyneb eryr.

11 Yr oedd eu hadenydd wedi eu lledu uwchben, gyda dwy i bob creadur yn cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, a dwy yn cuddio ei gorff.

12 Yr oedd pob un yn cerdded yn syth yn ei flaen i ble bynnag yr oedd yr ysbryd yn mynd; nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth gerdded.

13 Ac ymhlith y creaduriaid yr oedd rhywbeth a edrychai fel marwor tân yn llosgi, neu fel ffaglau yn symud ymysg y creaduriaid; yr oedd y tân yn ddisglair, a mellt yn dod allan o'i ganol.

14 Yr oedd y creaduriaid yn symud yn ôl ac ymlaen, yn debyg i fflachiad mellten.

15 Fel yr oeddwn yn edrych ar y creaduriaid, gwelais olwynion ar y llawr yn ymyl y creaduriaid, un ar gyfer pob wyneb.

16 Yr oedd ymddangosiad a gwneuthuriad yr olwynion fel hyn: yr oeddent yn debyg i belydrau o eurfaen, gyda'r un dull i bob un o'r pedwar; o ran gwneuthuriad yr oeddent yn edrych fel pe bai olwyn oddi mewn i olwyn,

17 a phan oeddent yn symud ymlaen i un o'r pedwar cyfeiriad, nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd.

18 Yr oedd ganddynt gylchau, ac fel yr edrychwn arnynt yr oedd eu cylchau—y pedwar ohonynt—yn llawn o lygaid oddi amgylch.

19 Pan gerddai'r creaduriaid, symudai'r olwynion oedd wrth eu hochr; a phan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion hefyd.

20 Ple bynnag yr oedd yr ysbryd yn mynd, yno yr aent hwythau hefyd; ac fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd yr oedd ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.

21 Pan symudai'r naill, fe symudai'r llall; pan safai'r naill, fe safai'r llall; pan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd bod ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.

22 Uwchben y creaduriaid yr oedd math ar ffurfafen, yn debyg i belydrau grisial ac yn arswydus; yr oedd wedi ei lledaenu dros eu pennau oddi uchod.

23 O dan y ffurfafen yr oedd adenydd pob un wedi eu lledu nes cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, ac yr oedd gan bob un ohonynt ddwy i guddio'i gorff.

24 Ac yr oeddwn yn clywed sŵn eu hadenydd wrth iddynt symud, ac yr oedd fel sŵn llawer o ddyfroedd, fel sŵn yr Hollalluog, fel sŵn storm, fel sŵn byddin; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd.

25 Yr oedd sŵn uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd.

26 Uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau yr oedd rhywbeth tebyg i faen saffir ar ffurf gorsedd, ac yn uchel i fyny ar yr orsedd ffurf oedd yn edrych yn ddynol.

27 O'r hyn a edrychai fel ei lwynau i fyny, gwelwn ef yn debyg i belydrau o bres, yn debyg i dân wedi ei gau mewn ffwrnais; ac o'r hyn a edrychai fel ei lwynau i lawr, gwelwn ef yn debyg i dân gyda disgleirdeb o'i amgylch.

28 Yr oedd y disgleirdeb o'i amgylch yn debyg i enfys mewn cwmwl ar ddiwrnod glawog; yr oedd yn edrych fel ffurf ar ogoniant yr ARGLWYDD.Wedi imi weld, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais yn siarad,