Eseciel 8 BCN

Ffieidd-dra Tŷ Israel

1 Ar y pumed dydd o'r chweched mis yn y chweched flwyddyn, a minnau'n eistedd yn fy nhŷ, a henuriaid Jwda yn eistedd o'm blaen, daeth llaw yr Arglwydd DDUW arnaf yno.

2 Ac wrth imi edrych, gwelais ffurf oedd o ran ymddangosiad yn ddynol. O'r hyn a edrychai fel ei lwynau i lawr, yr oedd yn dân, ac o'i lwynau i fyny yr oedd yn debyg i efydd gloyw a disglair.

3 Estynnodd allan yr hyn a edrychai fel llaw, a'm cymryd gerfydd gwallt fy mhen. Cododd yr ysbryd fi rhwng daear a nefoedd, a mynd â mi mewn gweledigaethau Duw i Jerwsalem, at ddrws porth y gogledd i'r cyntedd mewnol, lle safai delw eiddigedd, sy'n achosi eiddigedd.

4 Ac yno yr oedd gogoniant Duw Israel, fel yn y weledigaeth a gefais yn y gwastadedd.

5 Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, cod dy olygon i gyfeiriad y gogledd.” Codais fy ngolygon i gyfeiriad y gogledd, a gwelais yno, i'r gogledd o borth yr allor, yn y fynedfa, y ddelw hon o eiddigedd.

6 Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, a weli di beth y maent yn ei wneud, y pethau cwbl ffiaidd y mae tŷ Israel yn eu gwneud yma, i'm pellhau oddi wrth fy nghysegr? Ond fe gei weld eto bethau mwy ffiaidd.”

7 Yna aeth â mi at ddrws y cyntedd, ac wrth imi edrych gwelais dwll yn y mur.

8 Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, cloddia i'r mur.” Cloddiais i'r mur, a gwelais ddrws yno.

9 Dywedodd wrthyf, “Dos i mewn, ac edrych ar y ffieidd-dra drygionus y maent yn ei wneud yno.”

10 Euthum i mewn, ac wrth imi edrych gwelais bob math o ymlusgiaid, anifeiliaid atgas, a holl eilunod tŷ Israel, wedi eu cerfio ym mhobman ar y mur.

11 Yr oedd deg a thrigain o henuriaid tŷ Israel yn sefyll o'u blaenau, a Jaasaneia fab Saffan yn sefyll yn eu canol; yr oedd thuser yn llaw pob un ohonynt, a chwmwl persawrus o arogldarth yn codi.

12 A dywedodd wrthyf, “A welaist ti, fab dyn, beth y mae henuriaid tŷ Israel yn ei wneud yn y tywyllwch, bob un ohonynt yn ystafell ei gerfddelw? Fe ddywedant, ‘Nid yw'r ARGLWYDD yn ein gweld; gadawodd yr ARGLWYDD y wlad.’ ”

13 Dywedodd hefyd, “Fe gei weld eto bethau mwy ffiaidd y maent yn eu gwneud.”

14 Yna aeth â mi at ddrws porth y gogledd i dŷ'r ARGLWYDD, a gwelais yno wragedd yn eistedd i wylo am Tammus.

15 A dywedodd wrthyf, “A welaist ti hyn, fab dyn? Fe gei weld eto bethau mwy ffiaidd na'r rhain.”

16 Yna aeth â mi i gyntedd mewnol tŷ'r ARGLWYDD, ac yno wrth ddrws teml yr ARGLWYDD, rhwng y cyntedd a'r allor, yr oedd tua phump ar hugain o ddynion; yr oedd eu cefnau at deml yr ARGLWYDD, a'u hwynebau tua'r dwyrain, ac yr oeddent yn ymgrymu i'r haul yn y dwyrain.

17 Dywedodd wrthyf, “A welaist ti hyn, fab dyn? Ai bychan o beth yw bod tŷ Jwda yn gwneud y pethau ffiaidd a wnânt yma? Ond y maent hefyd yn llenwi'r ddaear â thrais ac yn cythruddo rhagor arnaf; edrych arnynt yn gosod y brigyn wrth eu trwynau.

18 Byddaf fi'n gweithredu mewn llid tuag atynt; ni fyddaf yn tosturio nac yn trugarhau. Er iddynt weiddi'n uchel yn fy nghlustiau, ni wrandawaf arnynt.”