Eseciel 30 BCN

Barn ar yr Aifft

1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2 “Fab dyn, proffwyda, a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Galarwch, a dweud,“Och am y dydd!”

3 Oherwydd agos yw'r dydd,agos yw dydd yr ARGLWYDD—dydd o gymylau,dydd barn y cenhedloedd.

4 Daw cleddyf yn erbyn yr Aifft,a bydd gwewyr yn Ethiopiapan syrth lladdedigion yr Aifft,a chymerir ymaith ei chyfoetha malurio'i sylfeini.

5 “ ‘Bydd Ethiopia, Put, Lydia a holl Arabia, Libya, a phobl y wlad sydd mewn cynghrair â hwy, yn syrthio trwy'r cleddyf.

6 “ ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio,a darostyngir ei grym balch;o Migdol i Aswanbyddant yn syrthio trwy'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW.

7 ‘Byddant yn anrhaith ymysg gwledydd anrheithiedig,a bydd eu dinasoedd ymysg dinasoedd anghyfannedd.

8 Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,pan rof dân ar yr Aifft,a phan ddryllir ei holl gynorthwywyr.

9 Y diwrnod hwnnw fe â negeswyr allan mewn llongau oddi wrthyf i ddychryn Ethiopia ddiofal, a daw gwewyr arnynt pan syrth yr Aifft; yn wir y mae'n dod.

10 “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Rhof ddiwedd ar finteioedd yr Aifft trwy law Nebuchadnesar brenin Babilon.

11 Dygir ef, a'i fyddin gydag ef, y greulonaf o'r cenhedloedd, i mewn i ddifetha'r wlad; tynnant eu cleddyfau yn erbyn yr Aifft a llenwi'r wlad â lladdedigion.

12 Sychaf yr afonydd hefyd, a gwerthu'r wlad i rai drwg; trwy ddwylo estroniaid anrheithiaf y wlad a phopeth sydd ynddi. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.

13 “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dinistriaf yr eilunod a rhof ddiwedd ar y delwau sydd yn Noff; ni fydd tywysog yng ngwlad yr Aifft mwyach, a pharaf fod ofn trwy'r wlad.

14 Anrheithiaf Pathros, a rhof dân ar Soan, a gweithredu barn ar Thebes.

15 Tywalltaf fy llid ar Sin, cadarnle'r Aifft, a thorri ymaith finteioedd Thebes.

16 Rhof dân ar yr Aifft, a bydd Sin mewn gwewyr mawr; rhwygir Thebes a bydd Noff mewn cyfyngder yn ddyddiol.

17 Fe syrth gwŷr ifainc On a Pibeseth trwy'r cleddyf, a dygir y merched i gaethglud.

18 Bydd y dydd yn dywyllwch yn Tahpanhes, pan dorraf yno iau yr Aifft a dod â'i grym balch i ben; fe'i gorchuddir â chwmwl, a dygir ei merched i gaethglud.

19 Gweithredaf farn ar yr Aifft, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

20 Ar y seithfed dydd o'r mis cyntaf yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

21 “Fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft, ond ni rwymwyd hi i'w gwella, na'i rhoi mewn rhwymyn i'w chryfhau i ddal y cleddyf.

22 Felly fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a thorraf ei freichiau, yr un iach a'r un sydd wedi ei thorri, a gwneud i'r cleddyf syrthio o'i law.

23 Gwasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd a'u chwalu trwy'r gwledydd.

24 Cryfhaf freichiau brenin Babilon a rhoi fy nghleddyf yn ei law, ond torraf freichiau Pharo, a bydd yn griddfan o'i flaen fel un wedi ei glwyfo i farwolaeth.

25 Atgyfnerthaf freichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau Pharo'n llipa. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan rof fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac yntau'n ei ysgwyd yn erbyn gwlad yr Aifft.

26 Gwasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd a'u chwalu trwy'r gwledydd, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”