1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2 “Fab dyn, proffwyda yn erbyn proffwydi Israel sy'n proffwydo; a dywed wrth y rhai sy'n proffwydo o'u meddyliau eu hunain, ‘Gwrandewch air yr ARGLWYDD.’
3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r proffwydi ynfyd sy'n dilyn eu hysbryd eu hunain ac sydd heb weld dim!
4 Bu dy broffwydi, O Israel, fel llwynogod mewn adfeilion.
5 Nid aethoch i fyny i'r bylchau, ac adeiladu'r mur i dŷ Israel, er mwyn iddo sefyll yn y frwydr ar ddydd yr ARGLWYDD.
6 Y mae eu gweledigaethau yn dwyllodrus a'u dewiniaeth yn gelwydd; er nad yw'r ARGLWYDD wedi eu hanfon, y maent yn dweud, ‘Medd yr ARGLWYDD’, ac yn disgwyl iddo gyflawni eu gair.
7 Onid gweld gweledigaeth dwyllodrus a llefaru dewiniaeth gelwyddog yr oeddech wrth ddweud, ‘Medd yr ARGLWYDD’, a minnau heb lefaru?
8 “Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am ichwi lefaru'n dwyllodrus a chael gweledigaethau celwyddog, yr wyf fi yn eich erbyn, medd yr Arglwydd DDUW.
9 Bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sy'n cael gweledigaethau twyllodrus ac yn llefaru dewiniaeth gelwyddog; ni fyddant yn perthyn i gyngor fy mhobl nac wedi eu rhestru ar gofrestr tŷ Israel, ac ni fyddant yn dod i dir Israel. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.
10 “Am iddynt arwain fy mhobl ar gyfeiliorn a dweud, ‘Heddwch’, er nad oedd heddwch, y maent yn codi wal simsan ac yn ei dwbio â gwyngalch.
11 Dywed wrth y rhai sy'n ei gwyngalchu y bydd yn cwympo; daw glaw yn llifeiriant, paraf i'r cenllysg ddisgyn, a bydd gwyntoedd stormus yn rhwygo.
12 Pan fydd y mur yn cwympo, oni ofynnir i chwi, ‘Ymhle mae'r gwyngalch a roesoch?’?
13 Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn fy nig gwnaf i wynt stormus rwygo, yn fy llid daw glaw yn llifeiriant, ac yn fy nig daw cenllysg i'w dinistrio.
14 Chwalaf y mur a wyngalchwyd, a'i wneud yn wastad â'r llawr a dinoethi ei sylfaen. A phan syrth o'ch cwmpas, fe'ch dinistrir; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
15 Byddaf yn gweithredu fy nig yn erbyn y mur ac yn erbyn y rhai a fu'n ei wyngalchu, a dywedaf wrthych, ‘Darfu am y mur ac am y rhai a fu'n ei wyngalchu,
16 sef proffwydi Israel, a broffwydodd wrth Jerwsalem a chael gweledigaethau o heddwch, er nad oedd heddwch, medd yr Arglwydd DDUW.’
17 “A thithau, fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn merched dy bobl, sy'n proffwydo o'u meddyliau eu hunain. Proffwyda yn eu herbyn
18 a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r gwragedd sy'n gwau breichledau hud ar bob garddwrn, ac yn gwneud gorchudd o bob maint ar y pen, er mwyn rhwydo bywydau pobl. A fyddwch yn rhwydo bywydau fy mhobl, ond yn cadw eich bywydau eich hunain yn ddiogel?
19 Yr ydych wedi fy halogi i ymysg fy mhobl er mwyn dyrneidiau o haidd a thameidiau o fara. Yr ydych wedi lladd y rhai na ddylent farw, ac wedi arbed bywyd y rhai na ddylent fyw, trwy eich celwyddau wrth fy mhobl, sy'n gwrando ar gelwydd.
20 Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn erbyn eich breichledau hud, yr ydych â hwy yn rhwydo bywydau fel adar, a thorraf hwy oddi ar eich breichiau; gollyngaf yn rhydd y bywydau yr ydych yn eu rhwydo fel adar.
21 Torraf ymaith eich gorchuddion, a gwaredaf fy mhobl o'ch dwylo, ac ni fyddant eto yn ysglyfaeth yn eich dwylo; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
22 Am ichwi ddigalonni'r cyfiawn â'ch twyll, er nad oeddwn i'n ei niweidio, ac am ichwi gefnogi'r drygionus, rhag iddo droi o'i ffordd ddrwg ac arbed ei fywyd,
23 felly ni fyddwch yn cael gweledigaethau twyllodrus eto nac yn ymarfer dewiniaeth. Byddaf yn gwaredu fy mhobl o'ch dwylo, a byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”