Eseciel 6 BCN

Proffwydo yn erbyn Mynyddoedd Israel

1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2 “Fab dyn, tro dy wyneb at fynyddoedd Israel, a phroffwyda wrthynt,

3 a dweud, ‘Fynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd: Yr wyf fi'n dod yn eich erbyn â'r cleddyf, a dinistriaf eich uchelfeydd.

4 Anrheithir eich allorau a dryllir eich allorau arogldarth, a thaflaf eich clwyfedigion o flaen eich eilunod.

5 Bwriaf gyrff pobl Israel o flaen eu heilunod, a gwasgaraf eich esgyrn o amgylch eich allorau.

6 Lle bynnag y byddwch yn byw, fe anrheithir y dinasoedd ac fe fwrir i lawr yr uchelfeydd, fel bod eich allorau wedi eu hanrheithio a'u dinistrio, eich eilunod wedi eu dryllio a'u malurio, eich allorau arogldarth wedi eu chwalu a'ch gwaith wedi ei ddileu.

7 Bydd clwyfedigion yn syrthio yn eich mysg, a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

8 “ ‘Ond gadawaf weddill; oherwydd bydd rhai ohonoch yn dianc rhag y cleddyf ymysg y cenhedloedd, pan wasgerir chwi trwy'r gwledydd.

9 Ymysg y cenhedloedd lle caethgludwyd hwy, bydd y rhai a ddihangodd yn fy nghofio—fel y drylliwyd fi gan eu calonnau godinebus pan oeddent yn troi oddi wrthyf, a chan eu llygaid pan oeddent yn godinebu gydag eilunod; yna byddant yn eu casáu eu hunain am y drygioni a wnaethant ac am eu holl ffieidd-dra.

10 A chânt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD; nid yn ofer y dywedais y byddwn yn gwneud y drwg hwn iddynt.

11 “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Cura dy ddwylo a chura â'th draed, a dywed “Och!” o achos holl ffieidd-dra drygionus tŷ Israel, oherwydd fe syrthiant trwy gleddyf a newyn a haint.

12 Bydd yr un sydd ymhell yn marw o haint, yr un agos yn syrthio trwy'r cleddyf, a'r un a adawyd ac a arbedwyd yn marw o newyn; ac yna fe gyflawnaf fy llid yn eu herbyn.

13 A chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fydd eu clwyfedigion ymysg eu heilunod o amgylch eu hallorau ar bob bryn uchel, ar holl bennau'r mynyddoedd, dan bob pren gwyrddlas a than bob derwen ddeiliog lle buont yn offrymu arogl peraidd i'w holl eilunod.

14 Byddaf yn estyn fy llaw yn eu herbyn, a gwnaf y tir yn anrhaith diffaith o'r anialwch hyd Dibla, lle bynnag y maent yn byw; a chânt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”