Eseciel 19 BCN

Galarnad am Dywysogion

1 “Gwna alarnad am dywysogion Israel,

2 a dywed:‘Y fath lewes oedd dy famymhlith y llewod!Gorweddodd ymysg y llewod ifainca magu ei chenawon.

3 Meithrinodd un o'i chenawon,a thyfodd yn llew ifanc;dysgodd larpio ysglyfaetha bwyta pobl.

4 Clywodd y cenhedloedd amdano,ac fe'i daliwyd yn eu pwll;aethant ag ef â bachaui wlad yr Aifft.

5 Pan welodd hi ei siomia dinistrio ei gobaith,cymerodd un arall o'i chenawona gwneud llew ifanc ohono.

6 Yr oedd yn prowla ymhlith y llewod,a thyfodd yn llew ifanc;dysgodd larpio ysglyfaetha bwyta pobl.

7 Tynnodd i lawr eu ceyrydd,a dinistrio eu dinasoedd;daeth ofn ar y wlad a phopeth ynddioherwydd sŵn ei ruo.

8 Yna daeth y cenhedloedd yn ei erbyno'r taleithiau o amgylch;taenasant eu rhwyd drosto,ac fe'i daliwyd yn eu pwll.

9 Tynasant ef i gawell â bachau,a mynd ag ef at frenin Babilon;rhoddwyd ef mewn carchar,fel na chlywyd ei sŵn mwyachar fynyddoedd Israel.

10 “ ‘Yr oedd dy fam fel gwinwydden mewn gwinllan,wedi ei phlannu yn ymyl dyfroedd;yr oedd yn ffrwythlon a brigogam fod digon o ddŵr.

11 Yr oedd ei changhennau yn gryfion,yn addas i deyrnwialen llywodraethwyr.Tyfodd yn uchel iawn,uwchlaw'r prysgwydd;yr oedd yn amlwg oherwydd ei huchdera nifer ei changau.

12 Ond fe'i diwreiddiwyd mewn dicter,fe'i bwriwyd hi i'r llawr;deifiodd gwynt y dwyrain hi,dinoethwyd hi o'i ffrwythau;gwywodd ei changau cryfion,ac yswyd hwy gan dân.

13 Yn awr, y mae wedi ei thrawsblannu mewn diffeithwch,mewn tir cras a sychedig.

14 Lledodd tân o un o'i changhennauac ysu ei blagur;ni adawyd arni yr un gangen gref,yn addas i deyrnwialen llywodraethwr.’Galarnad yw hon, ac y mae i'w defnyddio'n alarnad.”