Eseciel 36 BCN

Bendith i Israel

1 “Fab dyn, proffwyda wrth fynyddoedd Israel a dywed, ‘O fynyddoedd Israel, clywch air yr ARGLWYDD.

2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i'r gelyn ddweud amdanoch, “Aha! Daeth yr hen uchelfeydd yn eiddo i ni!”

3 felly proffwyda a dywed: Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iddynt eich gwneud yn ddiffeithwch ac yn anrhaith o bob tu, nes ichwi fynd yn eiddo i weddill y cenhedloedd, yn destun siarad ac yn enllib i'r bobl,

4 felly, O fynyddoedd Israel, clywch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd, wrth yr adfeilion diffaith a'r dinasoedd anghyfannedd, sydd wedi mynd yn ysglyfaeth ac yn wawd i weddill y cenhedloedd o amgylch;

5 felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Lleferais yn fy sêl ysol yn erbyn gweddill y cenhedloedd, ac yn erbyn y cyfan o Edom, oherwydd iddynt, â llawenydd yn eu calon a malais yn eu hysbryd, wneud fy nhir yn eiddo iddynt eu hunain a gwneud ei borfa yn anrhaith.’

6 Felly, proffwyda am dir Israel, a dywed wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi'n llefaru yn fy eiddigedd a'm llid, oherwydd ichwi ddioddef dirmyg y cenhedloedd.

7 Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn tyngu y bydd y cenhedloedd o'ch amgylch yn dioddef dirmyg.

8 “ ‘Ond byddwch chwi, fynyddoedd Israel, yn tyfu canghennau ac yn cynhyrchu ffrwyth i'm pobl Israel, oherwydd fe ddônt adref ar fyrder.

9 Wele, yr wyf fi o'ch tu ac yn troi'n ôl atoch; cewch eich aredig a'ch hau,

10 a byddaf yn lluosogi pobl arnoch, sef tŷ Israel i gyd. Fe gyfanheddir y dinasoedd ac fe adeiledir yr adfeilion.

11 Byddaf yn lluosogi pobl ac anifeiliaid arnoch, a byddant yn lluosogi ac yn ffrwythloni; byddaf yn peri i rai fyw arnoch fel o'r blaen, a gwnaf fwy o ddaioni i chwi na chynt. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

12 Gwnaf i bobl, fy mhobl Israel, gerdded arnoch; byddant yn eich meddiannu, a byddwch yn etifeddiaeth iddynt, ac ni fyddwch byth eto'n eu gwneud yn amddifad.

13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd bod pobl yn dweud wrthych, “Yr ydych yn difa pobl ac yn amddifadu eich cenedl o blant”,

14 felly, ni fyddwch eto'n difa pobl nac yn gwneud eich cenedl yn amddifad, medd yr Arglwydd DDUW.

15 Ni pharaf ichwi eto glywed dirmyg y cenhedloedd, na dioddef gwawd y bobloedd, na gwneud i'ch cenedl gwympo, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”

16 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

17 “Fab dyn, pan oedd tŷ Israel yn byw yn eu gwlad eu hunain, yr oeddent yn ei halogi trwy eu ffyrdd a'u gweithredoedd; yr oedd eu ffyrdd i mi fel halogrwydd misol gwraig.

18 Felly tywelltais fy llid arnynt, oherwydd iddynt dywallt gwaed ar y tir a'i halogi â'u heilunod.

19 Gwasgerais hwy ymhlith y cenhedloedd nes eu bod ar chwâl trwy'r gwledydd; fe'u bernais yn ôl eu ffyrdd a'u gweithredoedd.

20 I ble bynnag yr aethant ymysg y cenhedloedd, yr oeddent yn halogi fy enw sanctaidd; oherwydd fe ddywedwyd amdanynt, ‘Pobl yr ARGLWYDD yw'r rhain, ond eto fe'u gyrrwyd allan o'i wlad.’

21 Ond yr wyf yn gofalu am fy enw sanctaidd, a halogwyd gan dŷ Israel pan aethant allan i blith y cenhedloedd.

22 “Felly dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid er dy fwyn di, dŷ Israel, yr wyf yn gweithredu, ond er mwyn fy enw sanctaidd, a halogaist pan aethost allan i blith y cenhedloedd.

23 Amlygaf sancteiddrwydd fy enw mawr, a halogwyd gennyt ti ymysg y cenhedloedd. Yna bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, medd yr Arglwydd DDUW, pan fyddaf trwoch chwi yn amlygu fy sancteiddrwydd yn eu gŵydd.

24 Oherwydd byddaf yn eich cymryd o blith y cenhedloedd, yn eich casglu o'r holl wledydd, ac yn dod â chwi i'ch gwlad eich hunain.

25 Taenellaf ddŵr glân drosoch i'ch glanhau; a byddwch yn lân o'ch holl aflendid ac o'ch holl eilunod.

26 Rhof i chwi galon newydd, a bydd ysbryd newydd ynoch; tynnaf allan ohonoch y galon garreg, a rhof i chwi galon gig.

27 Rhof fy ysbryd ynoch, a gwneud ichwi ddilyn fy neddfau a gofalu cadw fy ngorchmynion.

28 Byddwch yn byw yn y tir a roddais i'ch hynafiaid; byddwch yn bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi.

29 Gwaredaf chwi o'ch holl aflendid; byddaf yn galw am y grawn ac yn gwneud digon ohono, ac ni fyddaf yn dwyn newyn arnoch.

30 Byddaf yn cynyddu ffrwythau'r coed a chnydau'r maes, rhag ichwi byth eto ddioddef dirmyg newyn ymysg y cenhedloedd.

31 Yna byddwch yn cofio eich ffyrdd drygionus a'r gweithredoedd drwg, a byddwch yn eich casáu eich hunain am eich camweddau a'ch ffieidd-dra.

32 Bydded wybyddus i chwi nad er eich mwyn chwi yr wyf yn gweithredu, medd yr Arglwydd DDUW. Bydded cywilydd a gwarth arnoch am eich ffyrdd, dŷ Israel!

33 “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ar y dydd y glanhaf chwi o'ch holl gamweddau, fe gyfanheddir y dinasoedd ac fe adeiledir yr adfeilion.

34 Caiff y wlad oedd yn ddiffaith ei thrin, rhag iddi fod yn ddiffaith yng ngolwg pawb sy'n mynd heibio.

35 Fe ddywedant, “Aeth y wlad hon, a fu'n ddiffaith, fel gardd Eden, ac y mae'r dinasoedd a fu'n adfeilion, ac yn ddiffeithwch anial, wedi eu cyfanheddu a'u hamddiffyn.”

36 Yna, bydd y cenhedloedd a adawyd o'ch amgylch yn gwybod i mi, yr ARGLWYDD, ailadeiladu'r hyn a ddinistriwyd ac ailblannu'r hyn oedd yn ddiffaith. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd, ac fe'i gwnaf.

37 “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf eto'n gwrando ar gais tŷ Israel ac yn gwneud hyn iddynt: byddaf yn amlhau eu pobl fel praidd.

38 Mor lluosog â phraidd yr offrwm, mor lluosog â phraidd Jerwsalem ar ei gwyliau penodedig, felly y llenwir y dinasoedd a fu'n adfeilion â phraidd o bobl. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”