1 Daeth rhai o henuriaid Israel ataf ac eistedd i lawr o'm blaen.
2 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
3 “Fab dyn, y mae'r dynion hyn wedi codi eu heilunod yn eu calonnau ac wedi gosod eu tramgwydd pechadurus o'u blaenau. A adawaf iddynt ymofyn â mi o gwbl?
4 Felly, llefara wrthynt a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Pan fydd unrhyw un o dŷ Israel sydd wedi codi ei eilunod yn ei galon ac wedi gosod ei dramgwydd pechadurus o'i flaen yn dod at broffwyd, byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn ei ateb fy hunan, yn ôl ei holl eilunod.
5 Gwnaf hyn er mwyn cydio yng nghalonnau tŷ Israel, gan eu bod i gyd wedi ymddieithrio oddi wrthyf trwy eu heilunod.’
6 Felly dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Edifarhewch, a throwch oddi wrth eich eilunod ac oddi wrth eich holl ffieidd-dra.
7 Pan fydd unrhyw un o dŷ Israel, neu unrhyw estron sy'n byw yn Israel, yn ymddieithrio oddi wrthyf, yn codi ei eilunod yn ei galon, ac yn gosod ei dramgwydd pechadurus o'i flaen, ac yna'n dod at broffwyd i ymofyn â mi, byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn ei ateb fy hunan.
8 Byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn hwnnw, ac yn ei wneud yn esiampl ac yn ddihareb, ac yn ei dorri ymaith o blith fy mhobl; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
9 Os twyllir y proffwyd i lefaru neges, myfi, yr ARGLWYDD, a dwyllodd y proffwyd hwnnw, a byddaf yn estyn fy llaw yn ei erbyn ac yn ei ddinistrio o blith fy mhobl Israel.
10 Byddant yn dwyn eu cosb—yr un fydd cosb y proffwyd â chosb y sawl sy'n ymofyn ag ef—
11 rhag i dŷ Israel byth eto fynd ar gyfeiliorn oddi wrthyf na'u halogi eu hunain rhagor â'u holl ddrygioni; ond byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”
12 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
13 “Fab dyn, os bydd gwlad yn pechu yn f'erbyn trwy fod yn anffyddlon, a minnau'n estyn fy llaw yn ei herbyn, yn torri ei chynhaliaeth o fara, yn anfon newyn arni, ac yn torri ymaith ohoni ddyn ac anifail;
14 hyd yn oed pe byddai Noa, Daniel a Job, y tri ohonynt, yn ei chanol, ni fyddent yn arbed ond eu bywydau eu hunain trwy eu cyfiawnder,” medd yr Arglwydd DDUW.
15 “Neu pe bawn yn anfon bwystfilod gwylltion i'r wlad, a hwythau'n ei diboblogi, a'i gwneud yn ddiffeithwch, heb neb yn mynd trwyddi o achos y bwystfilod,
16 cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr Arglwydd DDUW, “pe byddai'r tri dyn hyn ynddi, ni fyddent yn arbed eu meibion na'u merched; hwy eu hunain yn unig a arbedid, ond byddai'r wlad yn ddiffeithwch.
17 Neu, pe bawn yn dwyn cleddyf ar y wlad honno ac yn dweud, ‘Aed cleddyf trwy'r wlad’, a phe bawn yn torri ymaith ohoni ddyn ac anifail,
18 cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr Arglwydd DDUW, “pe byddai'r tri dyn hyn ynddi, ni fyddent yn arbed eu meibion na'u merched; hwy eu hunain yn unig a arbedid.
19 Neu, pe bawn yn anfon pla i'r wlad honno, ac yn tywallt fy nig arni trwy dywallt gwaed, ac yn torri ymaith ohoni ddyn ac anifail,
20 cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr Arglwydd DDUW, “pe byddai Noa, Daniel a Job ynddi, ni fyddent yn arbed na mab na merch. Eu bywydau eu hunain yn unig a arbedent trwy eu cyfiawnder.
21 “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Pa faint gwaeth y bydd pan anfonaf ar Jerwsalem fy mhedair cosb erchyll, sef cleddyf, newyn, bwystfilod gwylltion a phla, i dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail.
22 Eto, fe arbedir gweddill ynddi, sef meibion a merched a ddygir allan; dônt allan atat, a phan weli eu hymddygiad a'u gweithredoedd, fe'th gysurir am y drwg a ddygais ar Jerwsalem; yn wir, am bob drwg a ddygais arni.
23 Fe'th gysurir pan weli eu hymddygiad a'u gweithredoedd, oherwydd byddi'n gwybod nad heb achos y gwneuthum y cyfan ynddi, medd yr Arglwydd DDUW.”