1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2 “Fab dyn, dywed wrth lywodraethwr Tyrus, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Ym malchder dy galon fe ddywedaist,“Yr wyf yn dduw,ac yn eistedd ar orsedd y duwiauyng nghanol y môr.”Ond dyn wyt, ac nid duw,er iti dybio dy fod fel duw—
3 yn ddoethach yn wir na Daniel,heb yr un gyfrinach yn guddiedig oddi wrthyt.
4 Trwy dy ddoethineb a'th ddeall enillaist iti gyfoeth,a chael aur ac arian i'th ystordai.
5 Trwy dy fedr mewn masnach cynyddaist dy gyfoeth,ac aeth dy galon i ymfalchïo ynddo.’
6 “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:‘Oherwydd iti dybio dy fod fel duw,
7 fe ddygaf estroniaid yn dy erbyn,y fwyaf didostur o'r cenhedloedd;tynnant eu cleddyfau yn erbyn gwychder dy ddoethineb,a thrywanu d'ogoniant.
8 Bwriant di i lawr i'r pwll,a byddi farw o'th glwyfauyn nyfnderoedd y môr.
9 A ddywedi, “Duw wyf fi,”yng ngŵydd y rhai sy'n dy ladd?Dyn wyt, ac nid duw,yn nwylo'r rhai sy'n dy drywanu.
10 Byddi'n profi marwolaeth y dienwaededigtrwy ddwylo estroniaid.Myfi a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW.”
11 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
12 “Fab dyn, cod alarnad am frenin Tyrus a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Yr oeddit yn esiampl o berffeithrwydd,yn llawn doethineb, a pherffaith dy brydferthwch.
13 Yr oeddit yn Eden, gardd Duw,a phob carreg werthfawr yn d'addurno—rhuddem, topas ac emrallt,eurfaen, onyx a iasbis,saffir, glasfaen a beryl,ac yr oedd dy fframiau a'th gerfiadau i gyd yn aur;ar ddydd dy eni y paratowyd hwy.
14 Fe'th osodais gyda cherwb gwarcheidiol wedi ei eneinio;yr oeddit ar fynydd sanctaidd Duw,ac yn cerdded ymysg y cerrig tanllyd.
15 Yr oeddit yn berffaith yn dy ffyrdd o ddydd dy eni,nes darganfod drygioni ynot.
16 Fel yr amlhaodd dy fasnach fe'th lanwyd â thrais,ac fe bechaist.Felly fe'th fwriais allan fel peth aflan o fynydd Duw,ac esgymunodd y cerwb gwarcheidiol dio fysg y cerrig tanllyd.
17 Ymfalchïodd dy galon yn dy brydferthwch,a halogaist dy ddoethineb er mwyn d'ogoniant;lluchiais di i'r llawr,a'th adael i'r brenhinoedd edrych arnat.
18 Trwy dy droseddau aml, ac anghyfiawnder dy fasnach,fe halogaist dy gysegrleoedd;felly gwneuthum i dân ddod allan ohonot a'th ysu,a'th wneud yn lludw ar y ddaear yng ngŵydd pawb oedd yn edrych.
19 Y mae pob un ymhlith y bobloedd sy'n d'adnabod wedi ei syfrdanu;aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.’ ”
20 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
21 “Fab dyn, tro dy wyneb tua Sidon a phroffwyda yn ei herbyn,
22 a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Yr wyf yn dy erbyn, O Sidon,ac amlygaf fy ngogoniant yn dy ganol.Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,pan weithredaf fy nghosb arniac amlygu fy sancteiddrwydd ynddi.
23 Anfonaf bla iddi, a thywallt gwaed ar ei heolydd;syrth y lladdedigion o'i mewn o achos y cleddyf sydd o'i hamgylch.Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’
24 “Ni fydd gan dŷ Israel mwyach fieri i'w pigo na drain i'w poeni ymysg yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.
25 “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Pan gasglaf dŷ Israel o fysg y bobloedd lle gwasgarwyd hwy, ac amlygu fy sancteiddrwydd ynddynt yng ngŵydd y cenhedloedd, cânt fyw yn eu tir eu hunain, a roddais i'm gwas Jacob.
26 Byddant yn byw'n ddiogel yno, yn codi tai ac yn plannu gwinllannoedd; byddant yn byw'n ddiogel pan fyddaf fi'n gweithredu barn ar yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.’ ”