Eseciel 38 BCN

Proffwydo yn erbyn Gog

1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2 “Fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn Gog yn nhir Magog, prif dywysog Mesach a Tubal; proffwyda yn ei erbyn,

3 a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi yn dy erbyn di, Gog, prif dywysog Mesach a Tubal;

4 byddaf yn dy droi'n ôl, yn rhoi bachau yn dy safn ac yn dy dynnu allan—ti, a'th holl fyddin, yn feirch a marchogion, y cyfan ohonynt yn llu mawr arfog, â bwcled a tharian, a phob un yn chwifio'i gleddyf.

5 Bydd Persia, Ethiopia a Libya gyda hwy, oll â tharianau a helmedau;

6 Gomer hefyd a'i holl fyddin, a Beth-togarma o bellterau'r gogledd a'i holl fyddin; bydd pobloedd lawer gyda thi.

7 “ ‘Bydd barod ac ymbaratoa, ti a'r holl fyddinoedd sydd o'th amgylch, a byddi'n eu gwarchod.

8 Ar ôl dyddiau lawer fe'th gynullir, ac mewn blynyddoedd i ddod byddi'n mynd yn erbyn gwlad sydd wedi ei hadfer ar ôl rhyfel, a'i phobl wedi eu casglu o blith llawer o genhedloedd ar fynyddoedd Israel, lle bu diffeithwch cyhyd; fe'u dygwyd allan o blith y bobloedd, ac yn awr y maent i gyd yn byw'n ddiogel.

9 Byddi di a'th holl fyddin, a phobloedd lawer gyda thi, yn mynd i fyny ac yn ymdaith fel storm; byddi fel cwmwl yn gorchuddio'r ddaear.

10 “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y diwrnod hwnnw fe ddaw syniadau i'th feddwl, a byddi'n dyfeisio cynllun drygionus,

11 ac yn dweud, “Af i fyny yn erbyn gwlad o bentrefi diamddiffyn, ac ymosod ar bobl heddychol sy'n byw'n ddiogel—pob un ohonynt yn byw heb furiau na barrau na phyrth.

12 Fe ysbeiliaf ac fe anrheithiaf; trof fy llaw yn erbyn yr adfeilion a gyfanheddwyd, ac yn erbyn y bobl a gasglwyd o blith y cenhedloedd ac sydd yn meddu da ac eiddo ac yn byw yng nghanol y wlad.”

13 Bydd Sheba a Dedan, a marchnatwyr Tarsis a'i holl bentrefi, yn dweud wrthynt, “Ai i anrheithio y daethost? A gesglaist dy lu i ysbeilio, i gymryd arian ac aur, i gipio da ac eiddo, i gymryd llawer o ysbail?’ ”

14 “Felly, fab dyn, proffwyda a dywed wrth Gog, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y diwrnod hwnnw, pan fydd fy mhobl Israel yn byw'n ddiogel, oni fyddi'n cyffroi?

15 Fe ddoi o'th le ym mhellterau'r gogledd, ti a phobloedd lawer gyda thi, i gyd yn marchogaeth ar geffylau, yn llu mawr ac yn fyddin gref.

16 Doi i fyny yn erbyn fy mhobl Israel fel cwmwl yn gorchuddio'r ddaear. Mewn dyddiau i ddod, O Gog, fe'th ddygaf yn erbyn fy nhir, er mwyn i'r cenhedloedd f'adnabod pan amlygaf fy sancteiddrwydd trwoch chwi yn eu gŵydd.

17 “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Onid ti yw'r un y dywedais amdano yn y dyddiau gynt trwy fy ngweision, proffwydi Israel, a fu yr amser hwnnw yn proffwydo am flynyddoedd y dygwn di yn eu herbyn?

18 Y diwrnod hwnnw, pan fydd Gog yn dod yn erbyn tir Israel, fe gwyd dicter fy llid, medd yr Arglwydd DDUW.

19 Yn fy eiddigedd a gwres fy nig cyhoeddaf y bydd, y diwrnod hwnnw, ddaeargryn mawr yng ngwlad Israel.

20 Bydd popeth yn crynu o'm blaen—pysgod y môr, adar yr awyr, yr anifeiliaid gwylltion, holl ymlusgiaid y tir, a phob meidrolyn ar wyneb y ddaear; dymchwelir y mynyddoedd, syrth y creigiau, a bwrir pob mur i'r llawr.

21 Galwaf am bob math o ddychryn yn erbyn Gog, medd yr Arglwydd DDUW. Bydd cleddyf pob un yn erbyn ei gymydog;

22 dof i farn yn ei erbyn â haint ac â gwaed; tywalltaf lawogydd trymion, cenllysg, tân a brwmstan arno ef a'i fyddin a'r bobloedd lawer sydd gydag ef.

23 Amlygaf fy mawredd a'm sancteiddrwydd, a gwnaf fy hun yn wybyddus yng ngolwg llawer o genhedloedd. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’