1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2 “Fab dyn, gwna i Jerwsalem sylweddoli ei ffieidd-dra,
3 a dywed wrthi, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth Jerwsalem: O wlad Canaan yr wyt o ran dy dras a'th enedigaeth; Amoriad oedd dy dad, a'th fam yn Hethiad.
4 Ac am dy enedigaeth, ar ddydd dy eni ni thorrwyd llinyn dy fogail, na'th olchi mewn dŵr i'th lanhau, na'th rwbio â halen, na'th rwymo â chadach.
5 Ni thosturiodd neb wrthyt i wneud yr un o'r pethau hyn i ti, nac i drugarhau wrthyt; ond fe'th luchiwyd allan i'r maes, oherwydd fe'th ffieiddiwyd y diwrnod y ganwyd di.
6 “ ‘Yna fe ddeuthum heibio iti, a'th weld yn ymdrybaeddu yn dy waed, a dywedais wrthyt yn dy waed, “Bydd fyw.”
7 Gwneuthum iti dyfu fel planhigyn y maes; tyfaist a chynyddu a chyrraedd aeddfedrwydd. Chwyddodd dy fronnau a thyfodd dy wallt, er dy fod yn llwm a noeth.
8 “ ‘Deuthum heibio iti drachefn a sylwi arnat, a gweld dy fod yn barod am gariad; taenais gwr fy mantell drosot a chuddio dy noethni. Tynghedais fy hun iti, a gwneud cyfamod â thi, medd yr Arglwydd DDUW, a daethost yn eiddo imi.
9 Golchais di mewn dŵr a glanhau'r gwaed oddi arnat, a'th eneinio ag olew.
10 Gwisgais di mewn brodwaith a rhoi iti sandalau lledr; rhoddais liain main amdanat a'th orchuddio â sidan.
11 Addurnais di â thlysau, a rhoi breichledau am dy freichiau a chadwyn am dy wddf;
12 rhoddais fodrwy yn dy drwyn, tlysau ar dy glustiau a choron hardd ar dy ben.
13 Yr oeddit wedi dy addurno ag aur ac arian, a'th wisgo â lliain, sidan a brodwaith; yr oeddit yn bwyta peilliaid, mêl ac olew; yr oeddit yn hynod o brydferth, a chodaist i fod yn frenhines.
14 Aethost yn enwog ymysg y cenhedloedd o achos dy brydferthwch, oherwydd fe'i perffeithiwyd trwy'r harddwch a roddais i arnat, medd yr Arglwydd DDUW.
15 “ ‘Ond aethost i ymddiried yn dy brydferthwch, a phuteiniaist oherwydd dy enwogrwydd; yr oeddit yn cynnig dy gorff i unrhyw un a âi heibio, ac yntau'n ei gymryd.
16 Cymeraist rai o'th ddillad, a gwneud i ti dy hun uchelfeydd lliwgar, a phuteiniaist yno; ni fu peth fel hyn, ac ni fydd ychwaith.
17 Cymeraist hefyd dy dlysau prydferth, y tlysau o aur ac arian a roddais iti, a gwnaethost i ti dy hun eilunod gwryw a phuteinio gyda hwy;
18 cymeraist dy ddillad o frodwaith i'w gorchuddio, ac offrymu fy olew a'm harogldarth o'u blaenau.
19 A'r bwyd a roddais iti—oherwydd bwydais di â pheilliaid, olew a mêl—fe'i rhoddaist o'u blaenau yn arogldarth hyfryd; fel hyn y bu, medd yr Arglwydd DDUW.
20 Cymeraist dy feibion a'th ferched, a oedd yn blant i mi, a'u hoffrymu yn fwyd iddynt; a oedd hyn yn llai o beth na'th buteindra?
21 Lleddaist fy mhlant a'u haberthu i'r eilunod.
22 Ac yn dy holl ffieidd-dra a'th buteindra, ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit yn llwm a noeth ac yn ymdrybaeddu yn dy waed.
23 “ ‘Wedi dy holl ddrygioni (Gwae! Gwae di! medd yr Arglwydd DDUW),
24 adeiledaist i ti dy hun lwyfan, a gwnaethost iti uchelfa ym mhob sgwâr.
25 Ar ben pob stryd codaist dy uchelfa, a halogi dy brydferthwch gan ledu dy goesau i bob un a âi heibio, a phuteinio'n ddiddiwedd.
26 Puteiniaist gyda'r Eifftiaid, dy gymdogion trachwantus, ac ennyn fy nig â'th buteindra diddiwedd.
27 Estynnais innau fy llaw yn dy erbyn, a lleihau dy diriogaeth; rhoddais di i ddymuniad dy elynion, merched y Philistiaid, a gywilyddiwyd gan dy ffordd anllad.
28 Puteiniaist hefyd gyda'r Asyriaid, am dy fod heb dy ddigoni; ac wedi iti buteinio, nid oeddit eto wedi cael digon.
29 Cynyddaist dy buteindra hyd at Caldea, gwlad o fasnachwyr, ac eto ni chefaist ddigon.
30 “ ‘Mor ddolurus yw dy galon, medd yr Arglwydd DDUW, dy fod yn gwneud yr holl bethau hyn, ac yn gweithredu fel putain ddigywilydd!
31 Pan godaist dy lwyfan ar ben pob stryd, a gwneud dy uchelfa ym mhob sgwâr, eto nid oeddit yn union fel putain, gan dy fod yn dirmygu tâl.
32 O wraig o butain, cymeraist estroniaid yn lle dy ŵr.
33 Derbyn tâl y mae pob putain, ond rhoi tâl yr wyt ti i'th holl gariadon, gan eu llwgrwobrwyo i ddod atat o bob man i buteinio gyda thi.
34 Yr wyt yn wahanol i wragedd eraill yn dy buteindra; nid oes neb yn dy geisio di; yr wyt yn rhoi tâl yn lle derbyn tâl, a dyna'r gwahaniaeth.
35 “ ‘Felly, butain, gwrando ar air yr ARGLWYDD.
36 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am iti fod yn gwbl anllad, a dangos dy noethni wrth buteinio gyda'th gariadon, ac oherwydd dy holl eilunod ffiaidd, ac am iti roi iddynt waed dy blant,
37 felly, fe gasglaf ynghyd dy holl gariadon y cefaist bleser gyda hwy, y rhai yr oeddit yn eu caru a'r rhai yr oeddit yn eu casáu. Fe'u casglaf ynghyd yn dy erbyn o bob man, ac fe'th ddinoethaf o'u blaenau, ac fe welant dy holl noethni.
38 Rhof arnat gosb godinebwyr a rhai'n tywallt gwaed, a dwyn arnat waed llid ac eiddigedd.
39 A rhof di yn nwylo dy gariadon; bwriant i lawr dy lwyfan a dinistrio dy uchelfeydd, tynnant dy ddillad oddi amdanat, a chymryd dy dlysau hardd a'th adael yn llwm a noeth.
40 Dônt â thyrfa yn dy erbyn, ac fe'th labyddiant â cherrig a'th rwygo â'u cleddyfau.
41 Llosgant dy dai, a rhoi cosb arnat yng ngŵydd llawer o wragedd. Rhof ddiwedd ar dy buteindra, ac ni fyddi'n talu eto i'th gariadon.
42 Yna gwnaf i'm llid gilio, a throf ymaith fy eiddigedd oddi wrthyt; ymdawelaf, ac ni ddigiaf rhagor.
43 Am iti anghofio dyddiau dy ieuenctid, a'm cynddeiriogi â'r holl bethau hyn, felly byddaf finnau'n peri i'r hyn a wnaethost ddod ar dy ben di dy hun, medd yr Arglwydd DDUW. Oni wnaethost anlladrwydd yn ogystal â'th holl ffieidd-dra?
44 “ ‘Bydd pob un sy'n defnyddio diarhebion yn dweud y ddihareb hon amdanat: “Fel y fam y bydd y ferch.”
45 Yr wyt ti'n ferch i'th fam, a gasaodd ei gŵr a'i phlant, ac yn chwaer i'th chwiorydd, a gasaodd eu gwŷr a'u plant; Hethiad oedd eich mam, a'ch tad yn Amoriad.
46 Dy chwaer hynaf oedd Samaria, a oedd yn byw gyda'i merched tua'r gogledd, a'th chwaer ieuengaf oedd Sodom, a oedd yn byw gyda'i merched tua'r de.
47 Nid yn unig fe gerddaist yn eu ffyrdd hwy a dilyn eu ffieidd-dra, ond ymhen ychydig amser yr oeddit yn fwy llygredig na hwy yn dy holl ffyrdd.
48 Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni wnaeth dy chwaer Sodom a'i merched fel y gwnaethost ti a'th ferched.
49 Hyn oedd drygioni dy chwaer Sodom: yr oedd hi a'i merched yn falch, yn gorfwyta, ac mewn esmwythyd diofal; ond ni roesant gymorth i'r tlawd anghenus.
50 Bu iddynt ymddyrchafu a gwneud ffieidd-dra o'm blaen; felly fe'u symudais ymaith, fel y gwelaist.
51 Ni wnaeth Samaria chwaith hanner dy ddrygioni di. Gwnaethost fwy o ffieidd-dra na hwy, a pheri i'th chwiorydd ymddangos yn gyfiawn ar gyfrif yr holl bethau ffiaidd a wnaethost ti.
52 Derbyn di felly warth, oherwydd sicrheaist ddedfryd ffafriol i'th chwiorydd; am fod dy ddrygioni di yn fwy ffiaidd na'r eiddo hwy, ymddangosant hwy yn fwy cyfiawn na thi. Felly, cywilyddia a derbyn dy warth, oherwydd gwnaethost i'th chwiorydd ymddangos yn gyfiawn.
53 “ ‘Eto, adferaf eu llwyddiant—llwyddiant Sodom a'i merched, a llwyddiant Samaria a'i merched—ac adferaf dy lwyddiant dithau gyda hwy,
54 er mwyn iti dderbyn dy warth, a bod arnat gywilydd o'r cyfan a wnaethost, er iti ddwyn cysur iddynt hwy.
55 Bydd dy chwiorydd Sodom a Samaria, a'u merched, yn dychwelyd i'w cyflwr blaenorol, a byddi dithau a'th ferched yn dychwelyd i'ch cyflwr blaenorol.
56 Nid oedd unrhyw sôn gennyt am dy chwaer Sodom yn nydd dy falchder,
57 cyn datguddio dy ddrygioni. Ond yn awr daethost fel hithau, yn destun gwaradwydd i ferched Edom a'r holl rai sydd o'u hamgylch, ac i ferched Philistia, sef yr holl rai o'th amgylch sy'n dy ddilorni.
58 Byddi'n derbyn cosb dy anlladrwydd a'th ffieidd-dra, medd yr ARGLWYDD.
59 “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwnaf â thi yn ôl dy haeddiant, am iti ddiystyru llw a thorri cyfamod;
60 eto fe gofiaf fi fy nghyfamod â thi yn nyddiau dy ieuenctid, a sefydlaf gyfamod tragwyddol â thi.
61 Yna, fe gofi dy ffyrdd, a chywilyddio pan dderbynni dy chwiorydd, y rhai hŷn na thi a'r rhai iau na thi; rhof hwy yn ferched i ti, ond nid oherwydd fy nghyfamod â thi.
62 Felly, sefydlaf fy nghyfamod â thi, a byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
63 Fe gofi a chywilyddio, ac nid agori dy enau rhagor, oherwydd dy warth pan faddeuaf fi iti am y cyfan a wnaethost, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”