1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2 “Fab dyn, yr wyt yn byw yng nghanol tylwyth gwrthryfelgar; y mae ganddynt lygaid i weld, ond ni welant, a chlustiau i glywed, ond ni chlywant, am eu bod yn dylwyth gwrthryfelgar.
3 Felly, fab dyn, gwna'n barod dy baciau ar gyfer caethglud, ac ymfuda liw dydd yn eu gŵydd; a phan ymfudi o'th gartref yn eu gŵydd i le arall, efallai y deallant eu bod yn dylwyth gwrthryfelgar.
4 Dos â'th baciau allan, fel paciau caethglud, liw dydd yn eu gŵydd, a dos dithau allan yn eu gŵydd gyda'r nos, yn union fel y rhai sy'n mynd i gaethglud.
5 Yn eu gŵydd cloddia drwy'r mur, a dos allan drwyddo.
6 Yn eu gŵydd cod dy baciau ar dy ysgwydd a mynd â hwy allan yn y gwyll; gorchuddia dy wyneb rhag iti weld y tir, oherwydd gosodais di'n arwydd i dŷ Israel.”
7 Gwneuthum fel y gorchmynnwyd imi. Liw dydd euthum â'm paciau allan, fel paciau caethglud, a liw nos cloddiais trwy'r mur â'm dwylo, a mynd â hwy allan yn y gwyll a'u cario ar fy ysgwydd yn eu gŵydd.
8 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf yn y bore a dweud,
9 “Fab dyn, oni ofynnodd Israel, y tylwyth gwrthryfelgar, iti, ‘Beth wyt ti'n ei wneud?’
10 Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y mae a wnelo'r baich hwn â'r tywysog yn Jerwsalem, ac y mae holl dylwyth Israel yn ei chanol.’
11 Dywed, ‘Yr wyf fi'n arwydd i chwi; fel y gwneuthum i, felly y gwneir iddynt hwy; ânt i gaethiwed i'r gaethglud.’
12 Bydd y tywysog sydd yn eu plith yn codi ei baciau ar ei ysgwydd yn y gwyll ac yn mynd allan; cloddir trwy'r mur, iddo fynd allan trwyddo, a bydd yn gorchuddio'i wyneb rhag iddo weld y tir â'i lygaid.
13 Taenaf fy rhwyd drosto, ac fe'i delir yn fy magl; af ag ef i Fabilon, gwlad y Caldeaid, ond ni fydd yn ei gweld, ac yno y bydd farw.
14 A byddaf yn gwasgaru i'r pedwar gwynt yr holl rai sydd o'i amgylch, ei gynorthwywyr a'i luoedd, ac yn eu hymlid â chleddyf noeth.
15 Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan fyddaf yn eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd.
16 Ond byddaf yn arbed ychydig ohonynt rhag y cleddyf, a rhag newyn a haint, er mwyn iddynt gydnabod eu ffieidd-dra ymysg y cenhedloedd lle'r ânt; a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.”
17 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
18 “Fab dyn, bwyta dy fwyd gan grynu, ac yfed dy ddiod mewn dychryn a phryder.
19 Yna dywed wrth bobl y wlad, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am y rhai sy'n byw yn Jerwsalem ac yng ngwlad Israel: Byddant yn bwyta'u bwyd mewn pryder ac yn yfed eu diod mewn anobaith, oherwydd fe ddinoethir eu gwlad o bopeth sydd ynddi o achos trais yr holl rai sy'n byw ynddi.
20 Difethir y dinasoedd sydd wedi eu cyfanheddu, a bydd y wlad yn anrhaith. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”
21 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
22 “Fab dyn, beth yw'r ddihareb hon sydd gennych am wlad Israel, ‘Y mae'r dyddiau'n mynd heibio, a phob gweledigaeth yn pallu’?
23 Am hynny, dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Rhoddaf ddiwedd ar y ddihareb hon, ac ni ddefnyddiant hi mwyach yn Israel.’ Dywed wrthynt, ‘Y mae'r dyddiau'n agosáu pan gyflawnir pob gweledigaeth.’
24 Oherwydd ni fydd eto weledigaeth dwyllodrus na dewiniaeth wenieithus ymysg tylwyth Israel.
25 Ond byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn llefaru yr hyn a ddymunaf, ac fe'i cyflawnir heb ragor o oedi. Yn eich dyddiau chwi, dylwyth gwrthryfelgar, byddaf yn cyflawni'r hyn a lefaraf,” medd yr Arglwydd DDUW.
26 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
27 “Fab dyn, y mae tylwyth Israel yn dweud, ‘Ar gyfer y dyfodol pell y mae'r weledigaeth a gafodd, ac am amseroedd i ddod y mae'n proffwydo.’
28 Felly dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid oedir fy ngeiriau rhagor; cyflawnir yr hyn a lefaraf,’ medd yr Arglwydd DDUW.”