Eseciel 7 BCN

Daeth y Diwedd

1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2 “Tithau, fab dyn, dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth dir Israel: Diwedd! Daeth y diwedd ar bedwar cwr y wlad.

3 Daeth y diwedd yn awr arnat ti, ac anfonaf fy nig arnat; barnaf di yn ôl dy ffyrdd, a thalaf iti am dy holl ffieidd-dra.

4 Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, ac ni fyddaf yn trugarhau, ond talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

5 “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Trychineb ar ben trychineb! Y mae'n dod!

6 Daeth diwedd! Daeth y diwedd! Y mae wedi cychwyn yn dy erbyn! Fe ddaeth!

7 Fe ddaeth y farn arnat ti sy'n byw yn y wlad; daeth yr amser, agos yw'r dydd; y mae terfysg, ac nid llawenydd, ar y mynyddoedd.

8 Yn awr, ar fyrder, tywalltaf fy llid arnat a chyflawni fy nig tuag atat; barnaf di yn ôl dy ffyrdd, a thalu iti am dy holl ffieidd-dra.

9 Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, nac yn trugarhau; talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi'r ARGLWYDD sy'n taro.

10 “ ‘Dyma'r dydd! Fe ddaeth! Aeth y farn allan. Blagurodd anghyfiawnder, blodeuodd traha,

11 tyfodd trais yn anghyfiawnder dybryd; ni adewir neb ohonynt, neb o'r dyrfa, na dim o'u cyfoeth na dim o werth.

12 Daeth yr amser, cyrhaeddodd y dydd. Na fydded i'r prynwr lawenhau nac i'r gwerthwr ofidio, oherwydd daeth dicter ar y dyrfa i gyd.

13 Ni ddychwel y gwerthwr at yr hyn a werthodd, cyhyd ag y byddant ill dau'n fyw; oherwydd ni throir yn ôl y weledigaeth ynglŷn â'r dyrfa. O achos drygioni ni fydd yr un ohonynt yn dal gafael yn ei einioes.

14 Er iddynt ganu utgorn a gwneud popeth yn barod, nid â yr un allan i ryfel, oherwydd y mae fy nicter ar y dyrfa i gyd.

15 “ ‘Oddi allan y mae cleddyf, ac oddi mewn haint a newyn; bydd y rhai sydd allan yn y maes yn marw trwy'r cleddyf, a'r rhai sydd yn y ddinas yn cael eu hysu gan newyn a haint.

16 Bydd yr holl rai a ddihangodd i'r mynyddoedd, fel colomennod y dyffryn, pob un ohonynt yn griddfan am ei ddrygioni.

17 Bydd pob llaw yn llipa a phob glin fel glastwr;

18 byddant yn gwisgo sachliain, ac wedi eu gorchuddio â braw; bydd cywilydd ar bob wyneb a moelni ar bob pen.

19 Taflant eu harian i'r strydoedd, a bydd eu haur fel peth aflan; ni fedr eu harian na'u haur eu gwaredu yn nydd digofaint yr ARGLWYDD; ac ni fedrant ddigoni eu heisiau na llenwi eu stumogau; ond eu camwedd fydd eu cwymp.

20 Yr oeddent yn llawenhau â balchder yn eu tlysau hardd, ac yn eu gwneud yn ddelwau ffiaidd ac atgas; am hynny yr wyf yn eu hystyried yn aflan.

21 Fe'u rhoddaf yn ysbail yn nwylo estroniaid, ac yn anrhaith i rai drygionus y ddaear, a halogir hwy.

22 Trof fy wyneb oddi wrthynt, a halogir fy nhrysor; daw ysbeilwyr i mewn yno a'i halogi a gwneud anrhaith.

23 “ ‘Am fod y wlad yn llawn o dywallt gwaed, a'r ddinas yn llawn o drais,

24 dof â'r rhai gwaethaf o'r cenhedloedd yno, a byddant yn meddiannu eu tai; rhoddaf derfyn ar falchder y rhai cedyrn, ac fe halogir eu cysegrleoedd.

25 Y mae dychryn ar ddyfod, a byddant yn ceisio heddwch, ond heb ei gael.

26 Daw trallod ar ben trallod, a sibrydion ar ben sibrydion; ceisiant weledigaeth gan y proffwyd, a bydd y gyfraith yn pallu gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid.

27 Bydd y brenin mewn galar, a'r tywysog wedi ei wisgo ag arswyd, a bydd dwylo pobl y wlad yn crynu. Gwnaf â hwy yn ôl eu ffyrdd, a barnaf hwy yn ôl eu safonau eu hunain; a chânt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”