1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2 “Fab dyn, llefara wrth dy bobl a dweud wrthynt, ‘Bwriwch fy mod yn anfon cleddyf yn erbyn gwlad, a phobl y wlad yn dewis un gŵr o'u plith i fod yn wyliwr iddynt,
3 ac yntau'n gweld y cleddyf yn dod yn erbyn y wlad ac yn canu utgorn i rybuddio'r bobl;
4 yna, os bydd rhywun yn clywed sain yr utgorn ond heb dderbyn y rhybudd, a'r cleddyf yn dod ac yn ei ladd, ef ei hun fydd yn gyfrifol am ei waed.
5 Oherwydd iddo glywed sain yr utgorn a pheidio â derbyn rhybudd, ef ei hun fydd yn gyfrifol am ei waed; pe byddai wedi derbyn rhybudd, byddai wedi arbed ei fywyd.
6 Ond pe byddai'r gwyliedydd yn gweld y cleddyf yn dod ac yn peidio â chanu'r utgorn i rybuddio'r bobl, a'r cleddyf yn dod ac yn lladd un ohonynt, yna, er i hwnnw gael ei ladd am ei ddrygioni, byddwn yn dal y gwyliedydd yn gyfrifol am ei waed.’
7 “Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i dŷ Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf.
8 Os dywedaf fi wrth y drygionus, ‘O ddrygionus, byddi'n sicr o farw’, a thithau'n peidio â llefaru i'w rybuddio i droi o'i ffordd, yna, er i'r drygionus farw am ei ddrygioni, byddaf yn dy ddal di'n gyfrifol am ei waed.
9 Ond os byddi'n rhybuddio'r drygionus i droi o'i ffordd, ac yntau'n gwrthod, fe fydd farw am ei ddrygioni, ond fe fyddi di'n arbed dy fywyd.
10 “Fab dyn, dywed wrth dŷ Israel, ‘Dyma a ddywedwch: “Y mae ein troseddau a'n pechodau yn fwrn arnom, ac yr ydym yn darfod o'u plegid; sut y byddwn fyw?’ ”
11 Dywed wrthynt, ‘Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, nid wyf yn ymhyfrydu ym marwolaeth y drygionus, ond yn hytrach ei fod yn troi o'i ffordd ac yn byw. Trowch, trowch o'ch ffyrdd drwg! Pam y byddwch farw, O dŷ Israel?’
12 “Fab dyn, dywed wrth dy bobl, ‘Ni fydd cyfiawnder y cyfiawn yn ei waredu pan fydd yn pechu, ac ni fydd drygioni'r drygionus yn peri iddo syrthio pan fydd yn troi oddi wrth ei ddrygioni; ni all y cyfiawn fyw trwy ei gyfiawnder pan fydd yn pechu.’
13 Os dywedaf wrth y cyfiawn y bydd yn sicr o fyw, ac yntau wedyn yn ymddiried yn ei gyfiawnder ac yn gwneud drygioni, ni chofir yr un o'i weithredoedd cyfiawn; bydd farw am y drygioni a wnaeth.
14 Ac os dywedaf wrth y drygionus, ‘Byddi'n sicr o farw’, ac yntau'n troi oddi wrth ei ddrygioni ac yn gwneud yr hyn sy'n gywir a chyfiawn,
15 yn dychwelyd gwystl, yn adfer yr hyn a ladrataodd, yn dilyn rheolau'r bywyd ac yn ymatal rhag drwg, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.
16 Ni chofir yn ei erbyn yr un o'i bechodau; gwnaeth yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, a bydd yn sicr o fyw.
17 “Eto fe ddywed dy bobl, ‘Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn’; ond eu ffordd hwy sy'n anghyfiawn.
18 Os try un cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder a gwneud drwg, bydd farw am hynny.
19 Os try un drygionus oddi wrth ei ddrygioni a gwneud yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, bydd fyw am hynny.
20 Eto fe ddywedwch, ‘Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn’! O dŷ Israel, fe farnaf bob un ohonoch yn ôl ei ffyrdd.”
21 Ar y pumed dydd o'r degfed mis yn neuddegfed flwyddyn ein caethglud, daeth ataf ddyn oedd wedi dianc o Jerwsalem a dweud, “Cwympodd y ddinas!”
22 Y noson cyn iddo gyrraedd, yr oedd llaw yr ARGLWYDD wedi dod arnaf, ac yr oedd wedi agor fy ngenau cyn i'r dyn ddod ataf yn y bore. Felly yr oedd fy ngenau'n agored, ac nid oeddwn bellach yn fud.
23 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
24 “Fab dyn, y mae'r rhai sy'n byw yn yr adfeilion yna yng ngwlad Israel yn dweud, ‘Un dyn oedd Abraham, ac fe feddiannodd y wlad; ond yr ydym ni'n llawer, ac yn sicr y mae'r wlad wedi ei rhoi'n feddiant i ni.’
25 Felly, dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr ydych yn bwyta cig gyda'r gwaed, yn codi eich golygon at eich eilunod, ac yn tywallt gwaed; a fyddwch felly'n meddiannu'r wlad?
26 Yr ydych yn dibynnu ar eich cleddyf, yn gwneud ffieidd-dra, a phob un ohonoch yn halogi gwraig ei gymydog; a fyddwch felly'n meddiannu'r wlad?’
27 Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Cyn wired â'm bod yn fyw, bydd y rhai a adawyd yn yr adfeilion yn syrthio trwy'r cleddyf, y sawl sydd allan yn y wlad yn cael ei roi i'r anifeiliaid gwylltion i'w ddifa, a'r rhai sydd mewn amddiffynfeydd ac ogofeydd yn marw o bla.
28 Gwnaf y wlad yn ddiffeithwch anial, a bydd diwedd ar ei rym balch; bydd mynyddoedd Israel mor ddiffaith fel na fydd neb yn eu croesi.
29 Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf wedi gwneud y wlad yn ddiffeithwch anial oherwydd yr holl ffieidd-dra a wnaethant.’
30 “Amdanat ti, fab dyn, y mae dy bobl yn siarad ger y muriau ac wrth ddrysau'r tai, ac yn dweud wrth ei gilydd, ‘Dewch i wrando beth yw'r gair a ddaeth oddi wrth yr ARGLWYDD.’
31 Fe ddaw fy mhobl yn ôl eu harfer, ac eistedd o'th flaen a gwrando ar dy eiriau, ond ni fyddant yn eu gwneud. Y mae geiriau serchog yn eu genau, ond eu calon yn eu harwain ar ôl elw.
32 Yn wir, nid wyt ti iddynt hwy ond un yn canu caneuon serch mewn llais peraidd ac yn chwarae offeryn yn dda, oherwydd y maent yn gwrando ar dy eiriau ond heb eu gwneud.
33 Pan ddigwydd hyn, ac y mae hynny'n sicr, byddant yn gwybod i broffwyd fod yn eu mysg.”