1 Yna cododd yr ysbryd fi a mynd â mi at borth y dwyrain i dŷ'r ARGLWYDD, sef yr un sy'n wynebu tua'r dwyrain. Ac yno wrth ddrws y porth yr oedd pump ar hugain o ddynion, a gwelais yn eu mysg Jaasaneia fab Assur a Pelateia fab Benaia, arweinwyr y bobl.
2 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Fab dyn, dyma'r dynion sy'n cynllwyn drygioni ac yn rhoi cyngor drwg yn y ddinas hon,
3 ac yn dweud, ‘Nid yw'n amser eto i adeiladu tai; y ddinas yw'r crochan, a ninnau yw'r cig.’
4 Felly, proffwyda yn eu herbyn; proffwyda, fab dyn.”
5 Daeth ysbryd yr ARGLWYDD arnaf a dweud wrthyf, “Dywed, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fel y llefarwch, dŷ Israel; fe wn i beth sy'n dod i'ch meddyliau.
6 Yr ydych wedi lladd llawer yn y ddinas hon, ac wedi llenwi ei strydoedd â meirwon.
7 Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y cyrff a roesoch yn ei chanol yw'r cig, a'r ddinas yw'r crochan, ond fe'ch gyrraf allan ohoni.
8 Yr ydych yn ofni cleddyf, ond cleddyf a ddygaf arnoch, medd yr Arglwydd DDUW.
9 Fe'ch gyrraf allan ohoni a'ch rhoi yn nwylo estroniaid, a gwnaf farn â chwi.
10 Fe syrthiwch drwy'r cleddyf, ac fe'ch barnaf ar derfynau Israel; yna cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
11 Nid y ddinas hon fydd y crochan i chwi, ac nid chwi fydd y cig o'i fewn; ond ar derfynau Israel y barnaf chwi.
12 Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD; ni fuoch yn dilyn fy neddfau nac yn ufuddhau i'm barnau, ond yn gwneud yn ôl barnau'r cenhedloedd sydd o'ch amgylch.’ ”
13 Ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu farw Pelateia fab Benaia. Syrthiais ar fy wyneb a gweiddi â llais uchel a dweud, “Och! Fy Arglwydd DDUW, a wyt am wneud diwedd llwyr ar weddill Israel?”
14 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
15 “Fab dyn, am dy dylwyth—tylwyth o'r un gwaed â thi, a holl dŷ Israel—y mae trigolion Jerwsalem yn dweud, ‘Y maent hwy yn bell oddi wrth yr ARGLWYDD; i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth.’
16 Felly dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Er imi eu hanfon ymhell i blith y cenhedloedd, a'u gwasgaru trwy'r gwledydd, eto am ychydig bûm yn gysegr iddynt yn y gwledydd lle maent.’
17 Felly dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe'ch casglaf o blith y bobloedd, a'ch dwyn ynghyd o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, a rhoddaf ichwi dir Israel.’
18 Pan ddônt yno, fe fwriant allan ohoni ei holl bethau atgas a ffiaidd.
19 Rhoddaf iddynt galon unplyg, ac ysbryd newydd ynddynt; tynnaf ohonynt y galon garreg, a rhoi iddynt galon gig.
20 Yna byddant yn dilyn fy neddfau ac yn gofalu cadw fy marnau; byddant yn bobl i mi, a byddaf finnau yn Dduw iddynt hwy.
21 Ond am y rhai sydd â'u calon yn dilyn pethau atgas a ffiaidd, rhoddaf dâl iddynt am hynny, medd yr Arglwydd DDUW.”
22 Yna cododd y cerwbiaid eu hadenydd, gyda'r olwynion wrth eu hochrau; ac yr oedd gogoniant Duw Israel uwch eu pennau.
23 Cododd gogoniant yr ARGLWYDD o fod dros ganol y ddinas, ac arhosodd dros y mynydd sydd i'r dwyrain ohoni.
24 Cododd yr ysbryd fi a mynd â mi at y gaethglud ym Mabilon mewn gweledigaeth trwy ysbryd Duw. Yna aeth y weledigaeth a gefais oddi wrthyf,
25 a dywedais wrth y caethgludion y cyfan a ddangosodd yr ARGLWYDD imi.