1 Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac aeth â mi allan trwy ysbryd yr ARGLWYDD a'm gosod yng nghanol dyffryn a oedd yn llawn esgyrn.
2 Aeth â mi'n ôl a blaen o'u hamgylch, a gwelais lawer iawn o esgyrn ar lawr y dyffryn, ac yr oeddent yn sychion iawn.
3 Gofynnodd imi, “Fab dyn, a all yr esgyrn hyn fyw?” Atebais innau, “O Arglwydd DDUW, ti sy'n gwybod.”
4 Dywedodd wrthyf, “Proffwyda wrth yr esgyrn hyn a dywed wrthynt, ‘Esgyrn sychion, clywch air yr ARGLWYDD.
5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr esgyrn hyn: Wele, fe roddaf fi anadl ynoch, a byddwch fyw.
6 Rhoddaf ewynnau arnoch, paraf i gnawd ddod arnoch a rhoddaf groen drosoch; rhoddaf anadl ynoch, a byddwch fyw. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”
7 Proffwydais fel y gorchmynnwyd imi. Ac fel yr oeddwn yn proffwydo daeth sŵn, a hefyd gynnwrf, a daeth yr esgyrn ynghyd, asgwrn at asgwrn.
8 Edrychais, ac yr oedd gewynnau arnynt, a chnawd hefyd, ac yr oedd croen drostynt, ond nid oedd anadl ynddynt.
9 Yna dywedodd wrthyf, “Proffwyda wrth yr anadl; proffwyda, fab dyn, a dywed wrth yr anadl, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: O anadl, tyrd o'r pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, iddynt fyw.’ ”
10 Proffwydais fel y gorchmynnwyd imi, a daeth anadl iddynt ac aethant yn fyw, a chodi ar eu traed yn fyddin gref iawn.
11 Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, holl dŷ Israel yw'r esgyrn hyn. Y maent yn dweud, ‘Aeth ein hesgyrn yn sychion, darfu am ein gobaith, ac fe'n torrwyd ymaith.’
12 Felly, proffwyda wrthynt a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: O fy mhobl, yr wyf am agor eich beddau a'ch codi ohonynt, ac fe af â chwi'n ôl i dir Israel.
13 Yna, byddwch chwi fy mhobl yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan agoraf eich beddau a'ch codi ohonynt.
14 Rhoddaf fy ysbryd ynoch, a byddwch fyw, ac fe'ch gosodaf yn eich gwlad eich hunain. Yna byddwch yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD a lefarodd, ac mai myfi a'i gwnaeth, medd yr ARGLWYDD.’ ”
15 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
16 “Fab dyn, cymer ffon ac ysgrifenna arni, ‘I Jwda ac i'r Israeliaid sydd mewn cysylltiad ag ef’; yna cymer ffon arall ac ysgrifenna arni, ‘Ffon Effraim: i Joseff a holl dŷ Israel sydd mewn cysylltiad ag ef.’
17 Una hwy â'i gilydd yn un ffon, fel y dônt yn un yn dy law.
18 Pan ddywed dy bobl, ‘Oni ddywedi wrthym beth yw ystyr hyn?’
19 ateb hwy, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf yn cymryd ffon Joseff, sydd yn nwylo Effraim, a llwythau Israel mewn cysylltiad ag ef, ac yn uno â hi ffon Jwda, ac yn eu gwneud yn un ffon, fel y byddant yn un yn fy llaw.’
20 Dal y ffyn yr ysgrifennaist arnynt yn dy law o'u blaenau,
21 a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi'n cymryd yr Israeliaid o blith y cenhedloedd lle'r aethant; fe'u casglaf o bob man, a mynd â hwy i'w gwlad eu hunain.
22 Gwnaf hwy'n un genedl yn y wlad, ar fynyddoedd Israel, a bydd un brenin drostynt i gyd; ni fyddant byth eto'n ddwy genedl, ac ni rennir hwy mwyach yn ddwy deyrnas.
23 Ni fyddant yn eu halogi eu hunain eto â'u heilunod, eu pethau atgas a'u holl droseddau, oherwydd byddaf yn eu gwaredu o'u holl wrthgilio, a fu'n ddrygioni ynddynt, ac fe'u glanhaf; byddant hwy'n bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy.
24 “ ‘Fy ngwas Dafydd a fydd yn frenin arnynt, a bydd un bugail drostynt i gyd. Byddant yn dilyn fy nghyfreithiau ac yn gofalu cadw fy neddfau.
25 Byddant yn byw yn y wlad a roddais i'm gwas Jacob, y wlad lle bu'ch hynafiaid yn byw; byddant hwy a'u plant a phlant eu plant yn byw yno am byth, a bydd fy ngwas Dafydd yn dywysog iddynt am byth.
26 Gwnaf gyfamod heddwch â hwy, ac fe fydd yn gyfamod tragwyddol; sefydlaf hwy, a'u lluosogi, a gosodaf fy nghysegr yn eu mysg am byth.
27 Bydd fy nhrigfan gyda hwy; a byddaf fi'n Dduw iddynt, a hwythau'n bobl i mi.
28 Yna, pan fydd fy nghysegr yn eu mysg am byth, bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi, yr ARGLWYDD, sy'n sancteiddio Israel.’ ”