Eseciel 32 BCN

Galarnad am Pharo

1 Ar y dydd cyntaf o'r deuddegfed mis yn y ddeuddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud;

2 “Fab dyn, cod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho,‘Yr wyt fel llew ymysg y cenhedloedd.Yr wyt fel draig yn y moroedd,yn ymdroelli yn d'afonydd,yn corddi dŵr â'th draed,ac yn maeddu ei ffrydiau.

3 “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Â thyrfa fawr o bobl fe daflaf fy rhwyd drosot,ac fe'th godant i fyny ynddi.

4 Fe'th luchiaf ar y ddaear,a'th daflu ar y maes agored,a gwneud i holl adar y nefoedd ddisgyn arnat,a diwallu'r holl anifeiliaid gwylltion ohonot.

5 Gwasgaraf dy gnawd ar y mynyddoedd,a llenwi'r dyffrynnoedd â'th weddillion.

6 Mwydaf y ddaear hyd at y mynyddoeddâ'r gwaed fydd yn llifo ohonot,a bydd y cilfachau yn llawn ohono.

7 Pan ddiffoddaf di, gorchuddiaf y nefoedda thywyllu ei sêr;cuddiaf yr haul â chwmwl,ac ni rydd y lloer ei goleuni.

8 Tywyllaf holl oleuadau disglair y nefoedd uwch dy ben,ac fe'i gwnaf yn dywyll dros dy dir,’ medd yr Arglwydd DDUW.

9 “ ‘Gofidiaf galon llawer o bobl pan af â thi i gaethglud ymysg y cenhedloedd, i wledydd nad wyt yn eu hadnabod.

10 Gwnaf i lawer o bobl frawychu o'th achos, a bydd eu brenhinoedd yn crynu mewn braw o'th blegid pan ysgydwaf fy nghleddyf o'u blaenau; byddant yn ofni am eu heinioes bob munud ar ddydd dy gwymp.

11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Daw cleddyf brenin Babilon yn dy erbyn.

12 Gwnaf i'th finteioedd syrthio trwy gleddyfau'r rhai cryfion,y greulonaf o'r holl genhedloedd.Dymchwelant falchder yr Aifft,ac fe ddifethir ei holl finteioedd.

13 Dinistriaf ei holl wartheg o ymyl y dyfroedd;ni fydd traed dynol yn eu corddi mwyach,na charnau anifeiliaid yn eu maeddu.

14 Yna gwnaf eu dyfroedd yn groyw,a bydd eu hafonydd yn llifo fel olew,’ medd yr Arglwydd DDUW.

15 ‘Pan wnaf wlad yr Aifft yn anrhaith,a dinoethi'r wlad o'r hyn sydd ynddi;pan drawaf i lawr bawb sy'n byw ynddi,yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

16 Dyma'r alarnad a lafargenir amdani; merched y cenhedloedd fydd yn ei chanu, ac am yr Aifft a'i holl finteioedd y canant hi,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

Gyda'r Meirw yn y Pwll

17 Ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf yn y ddeuddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

18 “Fab dyn, galara am finteioedd yr Aifft, a bwrw hi i lawr, hi a merched y cenhedloedd cryfion, i'r tir isod gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

19 ‘A gei di ffafr rhagor nag eraill?Dos i lawr, a gorwedd gyda'r dienwaededig.

20 Syrthiant gyda'r rhai a leddir â'r cleddyf;tynnwyd y cleddyf, llusgir hi a'i minteioedd ymaith.

21 O ganol Sheol fe ddywed y cryfion amdani hi a'i chynorthwywyr,“Daethant i lawr a gorwedd gyda'r dienwaededig a laddwyd â'r cleddyf.”

22 Y mae Asyria a'i holl luoedd yno,ac o'i hamgylch feddau'r lladdedigion,yr holl rai a laddwyd â'r cleddyf.

23 Y mae eu beddau yn nyfnder y pwll,ac y mae ei holl lu o amgylch ei bedd;y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y bywwedi syrthio trwy'r cleddyf.

24 Y mae Elam a'i holl luoedd o amgylch ei bedd,i gyd wedi eu lladd a syrthio trwy'r cleddyf;y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y bywi lawr yn y tir isod gyda'r dienwaededig,ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

25 Gwnaed gwely iddi ymysg y lladdedigion,gyda'i holl luoedd o amgylch ei bedd;y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf.Am iddynt achosi braw yn nhir y byw,y maent yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll,ac yn gorwedd ymysg y lladdedigion.

26 Y mae Mesech a Tubal yno, a'u holl luoedd o amgylch eu beddau,y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf,am iddynt achosi braw yn nhir y byw.

27 Onid ydynt yn gorwedd gyda'r rhyfelwyr a syrthiodd yn ddienwaededig,a mynd i lawr i Sheol gyda'u harfau rhyfel,a rhoi eu harfau dan eu pennau?Daeth cosb eu troseddau ar eu hesgyrn,oherwydd bod braw ar y cryfion hyn trwy dir y byw.

28 Byddi dithau hefyd ymysg y dienwaededig, wedi dy ddryllio ac yn gorwedd gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf.

29 Y mae Edom gyda'i brenhinoedd a'i holl dywysogion yno; er eu grym y maent gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, yn gorwedd gyda'r dienwaededig, gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

30 Y mae holl dywysogion y gogledd a'r holl Sidoniaid yno; aethant i lawr mewn gwarth gyda'r lladdedigion, er gwaetha'r braw a achosodd eu cryfder; y maent yn gorwedd yn ddienwaededig gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

31 Pan fydd Pharo yn eu gweld bydd yn ymgysuro am ei holl finteioedd—Pharo a'i holl lu, a laddwyd â'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW.

32 ‘Oherwydd achosodd fraw trwy holl dir y byw, ac fe'i rhoir i orwedd, ef a'i holl finteioedd, ymysg y dienwaededig a laddwyd â'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW.”