6 Pan orchmynnodd i'r dyn oedd wedi ei wisgo â lliain, a dweud, “Cymer dân oddi rhwng yr olwynion, oddi rhwng y cerwbiaid”, fe aeth yntau i mewn a sefyll yn ymyl yr olwyn.
7 Yna estynnodd un o blith y cerwbiaid ei law at y tân oedd rhwng y cerwbiaid; cododd beth ohono a'i roi yn nwylo'r dyn oedd wedi ei wisgo â lliain; cymerodd yntau ef a mynd allan.
8 O dan adenydd y cerwbiaid fe welid rhywbeth tebyg i law ddynol.
9 Wrth imi edrych, gwelais hefyd bedair olwyn yn ymyl y cerwbiaid, un olwyn yn ymyl pob cerwb; yr oedd ymddangosiad yr olwynion yn debyg i eurfaen disglair.
10 O ran ymddangosiad yr oedd y pedair yn debyg i'w gilydd, fel pe bai olwyn oddi mewn i olwyn.
11 Pan symudent, fe aent i un o'r pedwar cyfeiriad, ond nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd. Fe âi'r cerwbiaid i ble bynnag yr oedd y pen yn wynebu, ond nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd.
12 Yr oedd eu holl gorff—eu cefnau, eu dwylo a'u hadenydd—a'r olwynion hefyd, y pedair ohonynt, yn llawn o lygaid.