1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2 “Fab dyn, sut y mae pren y winwydden yn well na phob coeden, ac na phob cangen ar goed y goedwig?
3 A gymerir pren ohoni i wneud rhywbeth defnyddiol? A wneir ohoni hoelen bren i grogi rhywbeth arni?
4 Os rhoddir hi'n gynnud i dân, bydd y tân yn difa'r ddau ben, a'r canol yn golosgi; ac i beth y mae'n dda wedyn?
5 Os na ellid gwneud dim defnyddiol ohoni pan oedd yn gyfan, pa faint llai y gwneir dim defnyddiol ohoni wedi i'r tân ei difa ac iddi olosgi?