2 “Fab dyn, sut y mae pren y winwydden yn well na phob coeden, ac na phob cangen ar goed y goedwig?
3 A gymerir pren ohoni i wneud rhywbeth defnyddiol? A wneir ohoni hoelen bren i grogi rhywbeth arni?
4 Os rhoddir hi'n gynnud i dân, bydd y tân yn difa'r ddau ben, a'r canol yn golosgi; ac i beth y mae'n dda wedyn?
5 Os na ellid gwneud dim defnyddiol ohoni pan oedd yn gyfan, pa faint llai y gwneir dim defnyddiol ohoni wedi i'r tân ei difa ac iddi olosgi?
6 Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fel y rhoddais bren y winwydden o blith coed y goedwig yn gynnud i'r tân, felly y gwnaf i drigolion Jerwsalem.
7 Byddaf yn gosod fy wyneb yn eu herbyn; er iddynt ddod allan o'r tân, eto bydd y tân yn eu difa. A phan osodaf fy wyneb yn eu herbyn, byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
8 Gwnaf y wlad yn ddiffeithwch, am iddynt fod yn anffyddlon, medd yr Arglwydd DDUW.”