1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2 “Beth a olygwch wrth ddefnyddio'r ddihareb hon am wlad Israel:“ ‘Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion,ond ar ddannedd y plant y mae dincod’?
3 “Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr Arglwydd DDUW, “ni ddefnyddiwch eto'r ddihareb hon yn Israel.
4 I mi y perthyn pob enaid byw, y rhiant a'r plentyn fel ei gilydd; a'r sawl sy'n pechu fydd farw.