17 Y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac nid yw'n cymryd llog nac elw; y mae'n cadw fy marnau ac yn dilyn fy neddfau. Ni fydd ef farw am drosedd ei dad, ond bydd yn sicr o fyw.
18 Bydd ei dad farw o achos ei droseddau ei hun, am iddo elwa trwy drais, lladrata oddi ar berthynas, a gwneud yr hyn nad oedd yn iawn ymysg ei bobl.
19 “Eto fe ofynnwch, ‘Pam nad yw'r mab yn euog am drosedd y tad?’ Am i'r mab wneud barn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau ac ufuddhau iddynt, bydd yn sicr o fyw.
20 Y sawl sy'n pechu a fydd farw. Ni fydd y mab yn euog am drosedd y tad, na'r tad am drosedd y mab; fe dderbyn y cyfiawn yn ôl ei gyfiawnder, a'r drygionus yn ôl ei ddrygioni.
21 “Os bydd y drygionus yn troi oddi wrth yr holl ddrygioni a wnaeth, yn cadw fy holl ddeddfau, ac yn gwneud barn a chyfiawnder, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.
22 Ni chofir yn ei erbyn yr un o'i droseddau, ond oherwydd y cyfiawnder a wnaeth bydd fyw.
23 A wyf yn ymhyfrydu ym marw'r drygionus?” medd yr Arglwydd DDUW. “Onid gwell gennyf iddo droi o'i ffyrdd a byw?