1 Ar y degfed dydd o'r pumed mis yn y seithfed flwyddyn, daeth rhai o henuriaid Israel i ymofyn â'r ARGLWYDD, ac yr oeddent yn eistedd o'm blaen.
2 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
3 “Fab dyn, llefara wrth henuriaid Israel a dywed wrthynt: ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ai i ymofyn â mi y daethoch? Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni adawaf i chwi ymofyn â mi.’
4 A wnei di eu barnu? A wnei eu barnu, fab dyn? Pâr iddynt wybod am ffieidd-dra eu hynafiaid,
5 a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn y dydd y dewisais Israel, tyngais wrth ddisgynyddion tylwyth Jacob, a datguddiais fy hun iddynt yng ngwlad yr Aifft; tyngais wrthynt a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”